Cofio dros Heddwch

Fe gollodd dros 35,000 o ddynion a merched Cymru eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Adeiladwyd y Deml Heddwch er mwyn coffáu'r ffaith bod Cymru wedi 'colli cenhedlaeth', ac i fod yn gartref i Lyfr y Cofio ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Llyfr y Cofio, o dan ofalaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn teithio Cymru rhwng 2014 a 2018, a hynny am y tro cyntaf. Gan weithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, rydym yn digido ein Llyfrau Cofio cenedlaethol ar gyfer y ddau Ryfel Byd, ac yn cefnogi pobl yn y gwaith o ddatguddio'r straeon y tu ôl i'r enwau - a'r ffaith bod erchyllterau rhyfel wedi arwain pobl Cymru i ymgyrchu dros heddwch ac i weithio dros gysylltiadau rhyngwladol mwy cadarnhaol.

Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf         Y Deml Heddwch              Llyfr y Cofio

Arddangosfa                  Straeon Milwyr              Gwrthwynebwyr Rhyfel            

Hanes Dau Babi       Weeping Window             Nawr yr Arwr

Y Rhyfel Byd Cyntaf - Cymru'n Cofio

War's Hell"Bu'r cyfnod rhwng 1914 a 1918, a'r blynyddoedd yn union wedi hynny, yn gyfrifol am siapio'r Gymru rydyn ni’n byw ynddi heddiw. Mae angen i ni ddeall y rhesymau pam yr aeth cenhedloedd i ryfel ond mae angen gwerthfawrogi hefyd beth oedd effaith y rhyfel hwnnw, sy'n dal i'w gweld ar ein bywydau bob dydd." Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, 2014

Uffern Rhyfel: Y Cymry ym Mrwydr Coed Mametz, 1916 - Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Bu farw dros 700,000 o filwyr o Brydain ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ôl amcangyfrifon fe gollodd tua thair miliwn o bobl yng ngwledydd Prydain berthynas agos. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn drychineb nad oedd neb wedi ei rhagweld, yn dilyn cyfnod o ymgiprys a drwgdybiaeth gynyddol rhwng gwledydd. Colli bywydau oedd yr effaith fwyaf amlwg, ond roedd effeithiau pell-gyrhaeddol eraill; fe newidiodd y cydbwysedd grym yn y byd, gyda chwymp ymerodraethau mawrion yn Ewrop a symud grym economaidd i'r Unol Daleithiau. Ym Mhrydain, bu newidiadau gwleidyddol sylweddol a daeth swyddogaeth y wladwriaeth yn fwy amlwg ym mywydau dinasyddion.

Cafodd y gwledydd fu'n cymryd rhan yn y rhyfel eu tlodi o'r herwydd. Ar ddiwedd y rhyfel roedd yr Almaen yn agos at lwgu, tra bod Prydain bron â mynd i'r wal. Mewn rhai gwledydd cafodd mudiadau gwleidyddol eithafol afael ar rym, ac fe wnaeth y 'Broses Heddwch' ddiffygiol ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf hau'r hadau nid yn unig ar gyfer yr Ail Ryfel Byd ugain mlynedd yn ddiweddarach, ond y rhan fwyaf o'r gwrthdaro mawr a welwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae maint y gwrthdaro a welwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a goblygiadau enfawr y gwrthdaro hwnnw, yn ei gwneud yn hollbwysig ein bod, yn ystod cyfnod y canmlwyddiant, yn ceisio deall achosion ac effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystyried aberth fawr unigolion a chymunedau, er mwyn dysgu sut y gellir osgoi gwrthdaro o'r fath yn y dyfodol.

Mae Cymru dros Heddwch yn chwarae rhan yn rhaglen Cymru'n Cofio 1914-18, y Rhaglen Fframwaith ar gyfer cyfnod coffáu'r canmlwyddiant rhwng 2014 a 2019, sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae cyfraniadau Cymru dros Heddwch, rhaglen Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, wedi'u cynnwys yn y rhaglenni blynyddol ar gyfer 2017, 2016, 2015 a 2014. I weld rhagor o ffynonellau gwybodaeth am y coffáu cliciwch yma, a gallwch weld prosiectau yma sydd wedi'u cefnogi drwy Cymru'n Cofio.

Teml Heddwch a Chofeb Ryfel Cymru

Welsh national memorialDdechrau'r dauddegau, yn dilyn ymgyrch yn y Western Mail, codwyd arian gan y cyhoedd i adeiladu Cofeb Ryfel Genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd. Penderfynodd y pwyllgor na fyddai enwau'n cael eu rhoi ar y gofeb eu hunain, ond y byddai 'rhestr y gwroniaid' yn cael ei chreu - a ddaeth i fod yn Llyfr y Cofio Cymru. Yn y ddefod i gysegru'r gofeb ym 1928, llofnodwyd y llyfr gan y Tywysog Edward a hynny yn Gymraeg gyda'r geiriau 'Er Cof'. I ddechrau fe gadwyd y llyfr yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ac ym 1938 fe'i trosglwyddwyd i grypt a adeiladwyd at y pwrpas yn y Deml Heddwch ac Iechyd newydd ym Mharc Cathays.

Ar fore 23 Tachwedd 1938, trowyd yr allwedd i agor drws y Deml am y tro cyntaf gan Mrs Minnie James o'r Dowlais, cynrychiolydd mamau galarus Cymru (a hithau wedi colli tri mab yn y rhyfel). Adeiladwyd y Deml "yn gofeb i'r dynion gwrol hynny o bob cenedl a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i roi diwedd ar bob rhyfel". Gosodwyd Llyfr Cenedlaethol y Cofio yn y crypt yn sylfeini'r Deml, wedi'i arddangos mewn casyn o wydr ac efydd Ffrainc, ar bedestal o Farmor Gwlad Belg - deunyddiau a ddewiswyd er mwyn adlewyrchu'r llefydd lle collodd cynifer o filwyr eu bywydau. Temple of Peace

Roedd y crypt - ac mae'n dal i fod - yn lle ar gyfer myfyrio tawel, ac mae'r symboliaeth yn eglur: dyma'r rheswm y dylem ymdrechu dros heddwch, dyma 'sylfaen' ein gwaith. Gallwch weld y Llyfr yn ei gartref arferol yn y Crypt o dan y Deml Heddwch yn yr albwm Flickr hwn, ynghyd â'r adeilad ysblennydd a ysbrydolwyd gan y weledigaeth o fyd heb ryfel fel y symbol gorau o goffadwriaeth cenhedlaeth goll - mae hon yn genhadaeth sy'n parhau hyd heddiw o dan arweiniad Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Llyfr y Cofio Cymru

Book of RemembranceWedi'u rhestru yn ôl catrawd, ar 1,100 o dudalennau o femrwn wedi'u rhwymo mewn lledr, mae enwau'r 35,000 o filwyr (gan gynnwys rhai merched) a fu farw ar faes y gad wedi'u hysgrifennu mewn caligraffi prydferth, ac wedi'u haddurno â phatrymau cain wedi'u goreuro. Er mwyn cael eu cynnwys, roedd rhaid i bobl fod naill ai wedi gwasanaethu mewn catrawd Gymreig neu fod wedi'u geni yng Nghymru neu i rieni o Gymru ac wedi gwasanaethu yn un o unedau Prydain neu'r Gymanwlad.

Gwaith y caligraffydd uchel ei barch Graily Hewitt oedd dyluniad cywrain y llyfr, a hynny yn ei weithdy yn Lincoln's Inn, Llundain, gyda chymorth tîm o ferched yn gweithio rhwng Gwasg Neuadd Gregynog ym Mhowys ac Aberystwyth, a Midhurst, Sussex. Mae pob enw wedi'i ysgrifennu'n unigol mewn caligraffi, ac adfywiad o dechnegau'r oesoedd canol yw'r technegau goreuro - gan droi rhestr o enwau yn gelfwaith.

Cofnod Cywir neu Arwydd Symbolaidd? Drwy gydol y dauddegau - gan nad oedd cofnodion canolog dibynadwy - lansiwyd ymgyrch genedlaethol, gyda chymorth sylweddol mudiadau merched, i geisio casglu enwau pawb a laddwyd. Fodd bynnag, roedd teimladau llawer o deuluoedd ynghylch natur cofio yn gymysg ac yn gignoeth. Roedd llawer yn teimlo nad oedd eu hanwyliaid wedi bod yn ddim ond ysglyfaeth i lywodraethau mewn rhyfel gwastraffus a diangen - ac fe wrthododd llawer adael i'w henwau gael eu defnyddio ar gofebau sefydliadol a oedd yn eu tyb nhw yn clodfori rhyfel, neu a allai gyfiawnhau recriwtio rhagor i'r fyddin yn y dyfodol. Yn sgil trafodaethau o'r fath y daeth symbolau pwerus y pabi coch a'r pabi gwyn (gweler isod), y ddau babi sy'n cael eu ffafrio gan y fyddin a'r mudiad heddwch. Mae arwyddocâd symbolaidd y llyfr yn aml yn cael ei weld fel rhywbeth sydd yr un mor bwysig â'i swyddogaeth fel cofnod o'r lladdedigion:

"Roedd casglu'r enwau.. yn waith o faint sylweddol... ac er na ellir honni bod y rhestr yn gwbl gywir na chyflawn, bu gofal mawr i ymdrechu at hynny." Darn o Raglen Defod Ddadorchuddio Cofeb Genedlaethol Cymru.

Digido'r Llyfr: Gweithred Goffa Gyfoes

Gan weithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn digido ac yn trawsgrifio Llyfrau Cofio cenedlaethol Cymru ar gyfer y ddau Ryfel Byd, ac yn cynorthwyo pobl i ddatguddio'r straeon y tu ôl i'r enwau - gyda chymorth gwirfoddolwyr ledled Cymru a wahoddir i fod yn rhan o weithred goffa gyfoes prosiect Cymru dros Heddwch, a fydd yn sicrhau bod y llyfrau, a'r enwau, yn hygyrch ar-lein ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cafodd yr offeryn trawsgrifio ar-lein, i goffáu enwau lladdedigion y Rhyfel Byd Cyntaf yn ddigidol, ei lansio yn y Senedd ar Ddydd y Cofio, 11 Tachwedd 2015 gan y Llywydd ar y pryd, y Fonesig Rosemary Butler AC adeg agor Arddangosfa 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cofio'. Os hoffech gyfrannu tuag at gwblhau'r trawsgrifiad

I weld y Llyfr: (cliciwch ar yr arwydd '+' os bydd hwn yn ymddangos, er mwyn mynd at glawr y llyfr a'r mynegai catrodol i lawr colofn LH). Gobeithiwch gwblhau trawsgrifiad gan wirfoddolwyr (gweler y canllawiau yma), a chreu rhyngwyneb ar gyfer chwilio'r enwau yn Llyfr y Rhyfel Byd Cyntaf, erbyn Dydd y Cofio 2017. Yn y cyfamser, os gwyddoch enw neu fanylion eraill perthynas / person ymchwil o ddiddordeb, ond eich bod yn ansicr ym mha gatrawd roedden nhw, rhowch gynnig ar gronfa ddata chwilio Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. I weld y 1,100 o dudalennau sydd wedi'u sganio a'r enwau, ewch i'r setiau catrodol ar wefan Casgliad y Werin.

Arddangosfa Deithiol 'Cofio dros Heddwch'

ExhibitionDrwy gydol 2016, bu Llyfr Coffa Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf yn ymweld â sawl lleoliad ac mae wedi bod wrth galon gweithgareddau cymunedol ledled Cymru - gan ailgysylltu enwau'r lladdedigion gyda'u disgynyddion a'r cymunedau roedden nhw'n byw ynddynt, a galluogi gwirfoddolwyr i ymchwilio i'r straeon a'r wynebau y tu ôl i'r enwau (gweler isod), yn ogystal a chefnogi Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru gyda'r gwaith o drawsgrifio'r 35,000 o enwau o'r llyfr.

Ar gyfer pob lleoliad, bu Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid lleol i addasu'r arddangosfa, i ganfod straeon lleol, ac i ddatblygu rhaglen benodedig ar gyfer ymweliadau'r cyhoedd, gweithdai a gweithgareddau ysgolion. Gallwch weld y paneli arddangos ar wefan Casgliad y Werin yma (gan gynnwys straeon milwyr o bob lleoliad hyd yma). Gweler rhagor o wybodaeth am daith arddangosfa 'Cofio dros Heddwch' yn ystod 2016-17:

      

Os oes gan eich amgueddfa ddiddordeb croesawu'r arddangosfa ddiwedd 2017-2018, cysylltwch â cymrudrosheddwch@wcia.org.uk.

Straeon Milwyr: y Tu ôl i'r Enwau

SoldierGan weithio'n agos gyda phrosiect Cymru yn y Rhyfel, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi bod yn cynnig gweithdai i gefnogi ysgolion a grwpiau cymunedol er mwyn ymchwilio i'r wynebau a'r straeon y tu ôl i'r enwau yn Llyfr y Cofio. Ein huchelgais, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr lleol, yw rhannu straeon 200 o filwyr Cymru, gydag amrywiaeth o safbwyntiau, mewn amrywiaeth eang o ffurfiau creadigol - arddangosiadau, straeon digidol / fideos, darnau ysgrifenedig ar-lein, sgyrsiau lleol a phrosiectau ysgol.

Paneli Arddangosfa Straeon Milwyr

Mae pob lleoliad a fu'n gartref i'r arddangosfa wedi cynnwys gwirfoddolwyr yn y gwaith o ymchwilio a dewis straeon i fod yn ganolbwynt i'r arddangosfa. Mae modd gweld y rhain yma ar wefan Casgliad y Werin.

'Y Milwr a'r Gwladweinydd'

Gan weithio gydag Amgueddfa Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi bod yn cynorthwyo dysgwyr i edrych ar straeon gwahanol dau o ffigurau amlycaf Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf:

  • Y bardd rhyfel Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) o'r Ysgwrn, Trawsfynydd - ffigwr heddwch amlwg a milwr anfoddog, y daeth ei farwolaeth ym Mhasschendaele ym 1917 yn symbol o'r genhedlaeth a gollwyd.
  • Prif Weinidog Prydain David Lloyd George, o Lanystumdwy, Sir Gaernarfon - arweinydd ymdrech Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n cael ei gydnabod gan lawer am roi diwedd ar y rhyfel ac arwain Proses Heddwch Paris ar ôl y Rhyfel.
Darganfod eich Perthnasau chi eich hunan, neu Hanesion o'ch Cymuned
  • Os gwyddoch enw neu fanylion eraill perthynas / person ymchwil o ddiddordeb, ond eich bod yn ansicr ym mha gatrawd roedden nhw, rhowch gynnig ar gronfa ddata chwilio Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.
  • I gael arweiniad ehangach ar olrhain y rhan a chwaraeodd eich perthnasau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cliciwch yma.
  • I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Grantiau Ysgolion Uwchradd Llywodraeth Cymru cliciwch yma
  • I gael gwybodaeth bellach am gynllun Grantiau ar gyfer Cofebion Rhyfel Cadw cliciwch yma

Straeon Milwyr - o'r Rhyfel Byd Cyntaf hyd Heddiw

Cafodd Llyfr y Cofio a'r Deml Heddwch eu comisiynu yn y gobaith o osgoi gwrthdaro pellach ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Fodd bynnag, gan mlynedd yn ddiweddarach mae'r ymgais i sicrhau heddwch yr un mor gythryblus ag erioed, gyda phob cenhedlaeth yn dioddef colledion trasig yn sgil rhyfeloedd. 

Heddychwyr a Gwrthwynebwyr Cydwybodol Rhyfel

Fel yn achos gwrthdaro diweddar yn Affganistan, Irác a Syria, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd gan bobl amrywiaeth eang o safbwyntiau ynghylch a ddylai'r rhyfel fod yn digwydd. Er bod llawer o ddynion yn enwedig wedi ymrestru i fynd i'r ffrynt, roedd llawer mewn 'swyddi neilltuedig' oedd yn hanfodol i'r economi - fel ffermio.

Ond roedd llawer yn gwrthwynebu'r rhyfel ar sail cydwybod, a phan gyflwynwyd gorfodaeth filwrol ym 1916, penderfynodd dros 900 o ddynion ledled Cymru fod yn Wrthwynebwyr Cydwybodol. Mae arddangosfa 'Cred a Gweithred' Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth Cymru'n Cofio, yn edrych ar amrywiaeth y safbwyntiau ar wrthdaro a heddwch yn ystod y can mlynedd diwethaf, yn enwedig gwaddol y gwrthsafiad yn erbyn rhyfel.

Daeth llawer o gynfilwyr, dynion a merched yn ôl o'r ffosydd yn benderfynol o greu byd mwy heddychlon, ac yn y degawd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cododd llawer o heddychwyr i swyddi amlwg yn y gymdeithas, gan sefydlu mudiadau sydd wedi diffinio ysbryd Cymru hyd heddiw. Cewch weld rhagor drwy ein themâu ar Ferched, Rhyfel a Heddwch, y Deml Heddwch, a Chydsefyll Rhyngwladol a Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru.

Hanes Dau Babi

White red poppyMae'r Pabi Coch yn adnabyddus fel symbol o goffâd yng ngwledydd Prydain, ar gyfer milwyr a gwympodd a milwyr sy'n fyw. Mae'r hanes y tu ôl iddo ychydig yn llai adnabyddus: athrawes o America yn 1918, sef Moina Belle Michael, a feddyliodd am ddefnyddio’r pabi sidan coch fel symbol o waed, "Fe wnes i addo cadw’n driw, a gwisgo pabi coch Fflandrys fel arwydd o goffadwriaeth." Moina Belle Michael.

Mabwysiadwyd y Pabi Gwyn yn y dauddegau gan fudiadau merched, fel symbol o heddwch. Roedd y genhedlaeth a oedd wedi colli gwŷr, brodyr a phlant yn anhapus gyda defnydd cynyddol o’r pabi coch fel arf recriwtio’r fyddin, ac ym 1926 cynigiodd mudiad ‘No More War’ y dylid defnyddio’r pabi gwyn i gofio holl ddioddefwyr rhyfel – milwyr, dinasyddion, ffoaduriaid, teuluoedd – ac yn symbol o ‘Gofio dros Heddwch'.

Mae eicon ‘Cymru dros Heddwch’ yn gyfuniad modern o’r pabi gwyn a’r pabi coch, gan symboleiddio rhyfel yn arwain at heddwch, a phwysigrwydd deialog rhwng gwahanol syniadau a bydolwg, sy’n angenrheidiol er mwyn adeiladu a chynnal heddwch – yn rhyngwladol, yn ein cymunedau ac fel unigolion.

Mae pabïau symbolaidd eraill yn cynnwys y pabi du - sy'n cynrychioli lluoedd pobl dduon, lleiafrifoedd ethnig a phobl frodorol sydd wedi marw mewn rhyfeloedd - a'r pabi porffor, sy'n cynrychioli anifeiliaid sy'n marw mewn rhyfeloedd. Gweler erthygl gan y BBC ar wahanol safbwyntiau am babïau.

#TaithPabi: Cywaith Weeping Window gyda 14-18NOW

weeping windowYn ystod hydref 2016, ochr yn ochr ag ymweliad 'Poppies: Weeping Window' gan yr artist Paul Cummins a'r dylunydd Tom Piper â Chastell Caernarfon, roedd prosiect Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â 14-18NOW, Cadw, Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Amgueddfeydd Gwynedd a Mantell Gwynedd er mwyn cynnwys grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn y gwaith o edrych ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Wynedd. Gan fynd y tu hwnt i'r arddangosfeydd a'r rhaglen gwirfoddolwyr yn y castell, roedd hefyd yn cynnwys datblygu Llwybr Heddwch Caernarfon, Cynadleddau Ysgolion a Gwobrau Arwyr Heddwch. Gallwch weld rhaglen partneriaeth 'Cofio dros Heddwch' Gwynedd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru hydref 2016 yma.

Yn ystod haf 2017, bydd Poppies: Weeping Window i'w gweld yn y Senedd ym Mae Caerdydd o 8 Awst tan 24 Medi, ac mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn falch o gael cydweithio unwaith eto gyda'r Senedd, 14-18NOW a phartneriaid ym Morgannwg er mwyn lansio arddangosfa 'Merched, Rhyfel a Heddwch' yng Nghymru gyda'r ffotonewyddiadurwr rhyngwladol Lee Karen Stow. Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Oriel y Senedd.

'Nawr yr Arwr' 2018

Brangwyn PanelsCafodd Paneli Brangwyn, sydd i'w gweld heddiw yn Neuadd y Ddinas Abertawe, eu creu pan gomisiynwyd yr artist rhyfel Syr Frank Brangwyn, Cymro a aned yn ninas Bruges yn Fflandrys, gan Dŷ'r Arglwyddi i'w creu i gofio lladdedigion y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fodd bynnag, pan gawson nhw eu dadorchuddio ym 1933, gyda delweddau 'disglair a lliwgar' o wahanol rannau o'r Ymerodraeth Brydeinig - oedd yn ceisio portreadu delweddau y bu brwydro drostynt fel rhyddid, cydraddoldeb ac ymryddhad o gaethwasiaeth - penderfynodd yr arglwyddi nad oedden nhw'n ddigon chwaethus ar gyfer eu siambr nhw.

Llwyddodd neuadd newydd y Brangwyn yn Abertawe i sicrhau'r paneli ym 1934. Fe gawsant eu hadfer yn 2014 i'w gogoniant gwreiddiol. I gofnodi can mlynedd ers diwedd y rhyfel ym mis Medi-Tachwedd 2018, bydd Cymru dros Heddwch yn cydweithio â'r artist o fri Marc Rees ac ystod eang o bartneriaid cymunedol er mwyn darparu rhaglen o ddigwyddiadau, 'Nawr yr Arwr' gan ddefnyddio treftadaeth Paneli Brangwyn er mwyn ystyried gobeithion, breuddwydion a dyheadau'r Cymry hynny a geisiodd greu byd gwell ar ôl y Cadoediad - a gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion, er mwyn darganfod gwersi ar gyfer creu heddwch i ni heddiw.

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

Digwyddiadau diweddaraf

  • 11/11/2017 19:30
    This Evil Thing / Galeri
    Ionawr 1916: Mae Bert Brocklesby yn athro ac yn bregethwr yn ei gapel ...

    Darllenwch ragor...
WCIA