Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen

70 Mlynydd o Dreftadaeth Heddwch, 1947-2017

1947: Fe wnaeth y cyfansoddwr o Gymru, Gwynn Williams, a'r swyddog gyda'r Cyngor Prydeinig, Harold Tudor, fynd ati i drefnu gwyl gerddoriaeth a diwylliant ryngwladol gyntaf Cymru, gyda'r genhadaeth o 'wellhau effeithiau'r rhyfel' a hybu dathliad rhygwladol. Mae'n tyfu i fod yn ddigwyddiad byd-eang gwirioneddol, gan ddenu 5,000 o berfformwyr y flwyddyn o dros 50 o wledydd.

Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen 2017

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gyntaf yn Llangollen ym mis Mehefin 1947. Yn ystod y 70 mlynedd dilynol mae ei dathliad o “Heddwch a Harmoni” wedi ei gwneud yn un o wyliau cerddorol mawr y byd. Mi ddechreuodd gyda gweledigaeth y gallai’r traddodiad eisteddfodol Cymreig hynafol fod yn ffordd o iacháu clwyfau’r Ail Ryfel Byd, a helpu i hyrwyddo heddwch parhaol.

Yn dilyn ysbrydoliaeth gan y Cyngor Prydeinig, dechreuodd pobl Llangollen gynllunio’r digwyddiad cyntaf ym mis Mai 1946. Roedd yna bryder na fyddai unrhyw un yn dod i’r ŵyl, yn enwedig o ystyried caledi’r blynyddoedd wedi’r rhyfel. Llwyddodd y cyhoedd i godi’r swm nodedig o £1,100 – tua £ 35,000 yn arian heddiw – gydag ymrwymiad y byddai pob ceiniog naill ai’n cael ei fuddsoddi yn nigwyddiad y flwyddyn honno ac unrhyw ddigwyddiadau eraill yn y dyfodol, neu’n cael ei dychwelyd i’r rhoddwyr!

Roedd Eisteddfod Ryngwladol 1947 yn llwyddiant ysgubol: mentrodd grwpiau o 10 gwlad dramor draw i Langollen, gan ymuno â thua 40 côr o Gymru, Lloegr a’r Alban. Roedd y cyfan yn hwyl mawr. Canmolwyd y trefnwyr, y sylfaenwyr, a’r cystadleuwyr yn fawr. Yn ystod y blynyddoedd nesaf cynyddodd nifer y gwledydd a gymerodd ran: erbyn 1953, pan ymwelodd y Frenhines Elisabeth II â’r Eisteddfod fel rhan o’i thaith drwy Gymru ar ôl y coroni, roedd cantorion a dawnswyr o 32 gwlad wedi cystadlu yn Llangollen. Roedd gŵyl wirioneddol ryngwladol wedi cael ei chreu, ei threfnu a’i rhedeg gan wirfoddolwyr.

Erbyn hyn mae Llangollen wedi ennill ei lle ymysg digwyddiadau cerddoriaeth byd. Mae mwy na 300,000 o gystadleuwyr o dros 100 o genhedloedd wedi perfformio’n frwd ar lwyfan Llangollen. Yn 1955 roedd y Luciano Pavarotti ifanc yn aelod o gôr ei dref enedigol, Modena, a arweiniwyd gan ei dad. Enillodd y côr y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth corau meibion. Dychwelodd Pavarotti ar gyfer cyngerdd arbennig yn 1995.

Mae’r sêr cerddorol sydd wedi ymddangos yn ein cyngherddau yn cynnwys Margot Fonteyn, Alicia Markova, Joan Sutherland, Angela Georghiu, Kiri Te Kanawa, Jehudi Menuhin, José Carreras, Lesley Garrett, Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Dennis O’Neil, James Galway, Nigel Kennedy, Elaine Paige, Michael Ball, a Montserrat Caballé. Dywed Placido Domingo mai ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn y Deyrnas Unedig oedd yn Eisteddfod Ryngwladol 1968.

Ers blynyddoedd cyntaf yr Eisteddfod Ryngwladol Gerdddorol Llangollen, mae pobl ifanc Llangollen wedi cyflwyno neges o heddwch ac ewyllys da o’r llwyfan ar ‘Ddiwrnod y Plant’, sy’n denu grwpiau mawr o ddisgyblion o ysgolion o bob cwr o’r ardal. Mae’r neges yn cael ei thraddodi fel arfer fel adroddiad byr. Yn 2014, torrodd 28 o blant Ysgol Plas Coch yn Wrecsam y traddodiad hwnnw a pherfformio’r neges heddwch fel curiad rap stryd. Roedden nhw’n galw eu hunain yn Undod Epic yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Caiff Gwobr Heddwch y Rotari ei dyfarnu gan Rotari Rhyngwladol (Rhanbarth 1180) i gydnabod unigolyn neu sefydliad sydd wedi cyfrannu i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ymysg pobl y byd. Dyfarnwyd Gwobr Heddwch y Rotari am y tro cyntaf yn 2016 i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i gydnabod y gwaith y mae’r Eisteddfod wedi ei wneud ers iddi ddechrau ym 1947, gan ddod â phobl o ddiwylliannau gwahanol ynghyd mewn awyrgylch o heddwch a chyfeillgarwch. Cytunwyd, drwy bartneriaeth â’r Rotari Rhyngwladol, y bydd yr Eisteddfod yn darparu llwyfan i gyflwyno’r wobr yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y Wobr Heddwch yn dod yn wobr sy’n wirioneddol ryngwladol a mawreddog. Teimlwn y byddai cyfuno proffil dyngarol a rhyngwladol y Rotari Rhyngwladol â chymwysterau heddwch yr Eisteddfod, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf adnabyddus Cymru, yn bartneriaeth ddelfrydol.

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA