Gwrthwynebiad i RhB1 yng Nghymru - Darlith Gyhoeddus gan Aled Eirug 2il o Fawrth 2016

Datganiad i’r Wasg

Chwefror 2016

 Beth oedd y Gwrthwynebiad i’r Rhyfel Mawr yng Nghymru? Darlith Gyhoeddus

Pwy, a faint o bobl, oedd yn gwrthwynebu'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru? Pwy oedd y gwrthwynebwyr cydwybodol a arweiniodd y gwrthwynebiad?  A sut mae hyn yn berthnasol i wrthdaro heddiw?

Rhoddir darlith ddadlennol, yn datgelu hyd a lled y gwrthwynebiad i'r Rhyfel yng Nghymru, gan gyn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfredol BBC Cymru, Aled Eirug, am 4:30yp ar yr 2il o Fawrth 2016 yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth

Fel yr esbonia Aled Eirug: “Ar achlysur canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, a'r duedd i roi sylw i'r milwyr, yn y ddarlith yma rwyf yn edrych yn fanwl ar y sawl a wrthwynebodd y Rhyfel trwy Gymru, ac yn enwedig ar y cyfanswm o dros 800 o  wrthwynebwyr cydwybodol o Gymru. Tra'i fod yn bwysig cofio'r milwyr a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel, mae'n bwysig hefyd cofio bod lleiafrif pwysig ac arwyddocaol wedi dewis llwybr arall oedd yn anodd ac yn aml yn amhoblogaidd.”

Disgwylir gryn ddiddordeb ag ymateb i’r ddarlith gan y cyhoedd ac academyddion, gan fod hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ymchwil helaeth Aled Eirug i’w ddoethuriaeth ar wrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Mae hon yn un mewn cyfres o ddarlithoedd heriol ac amserol y prosiect Cymru dros Heddwch, darlithoedd gan arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd fydd yn sbardun i gymunedau a theuluoedd fynd ati i gasglu eu hanesion cudd hwythau yn deillio o’r RhB1af.

Ychwanegodd Pennaeth prosiect Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Amserol iawn yw’r ddarlith gan y byddwn, ar yr 2il o Fawrth, yn cofio canmlwyddiant gweithredu Deddf Gwasanaeth Milwrol. O’r dyddiad hwn ymlaen roedd tebygrwydd y byddai’r rhan fwyaf o ddynion 18 i 41 oed yn cael eu cyrchu i ymgymryd â gwasanaeth milwrol - nifer ohonynt yn dychwelyd fel enwau yn Llyfr y Cofio, a welir ar hyn o bryd mewn arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ond mae’r gwrthwynebiad i ryfel yng Nghymru yn agwedd anghofiedig i raddau, ac yn y ddarlith hon, sy’n gyfle i gael rhagflas ar ymchwil blaenllaw Aled Eirug yn y maes, bydd hefyd cyfle i ategu ein hapêl i gasglu hanesion cudd am y Gwrthwynebwyr Cydwybodol. Gobeithio bydd sylweddoli arwyddocâd y gwrthwynebiad yn ysbrydoli cymunedau a theuluoedd i ymchwilio ymhellach a gwirfoddoli i rannu eu hanesion cudd hwythau gyda’r genedl, drwy gynllun Cymru’n Cofio.”

Bydd y ddarlith yn y Gymraeg, gyda chyfieithiad ar y pryd i’r Saesneg. Yn ymuno ag Aled Eirug fydd Cyril Pearce o Brifysgol Leeds, un o arbenigwyr blaenllaw'r DG ac awdur y Gofrestr Pearce o Wrthwynebwyr Cydwybodol, ffynhonnell ddata ar gyfer cofnodion yr Imperial War Museum. 

Yn dilyn y ddarlith, mae Cymru dros Heddwch yn falch o gefnogi digwyddiad arall i gofio’r gwrthwynebwyr cydwybodol sef lansiad llyfr Jen Llywelyn, ‘Pilgrim of Peace - A Life of George M. LL. Davies, gan y Lolfa am 6:30pm yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.

Arddangosfa a Darlithoedd Cofio dros Heddwch
Bydd y Ddarlith Gyhoeddus yn cyd-fynd ag Arddangosfa Cymru dros Heddwch sef ‘Cofio dros Heddwch’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, tan 16 Ebrill. Mae’n un o gyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus Dydd Mercher, a bydd y ddarlith olaf gan Rupert Gude ar yr ogwydd Prydeinig i Wrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei chynnal yn y Morlan, Aberystwyth am 2pm ar yr 16eg o Fawrth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i www.cymrudrosheddwch.org.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Nodyn i’r Golygydd:

Am ragor o wybodaeth neu i gydlynu ymhellach, ffoniwch 07498309779.

Ar hyn o bryd mae Aled Eirug yn ymchwilio ar gyfer Doethuriaeth ar wrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n Aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom, yn gyn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfredol i BBC Cymru o 1992-2003, yn gyn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghori’r Cyngor Prydeinig 2012-2015, a chynghorydd ar faterion cyfansoddiadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 2007-11. Gweler proffil proffesiynol Aled Eirug fan hyn.

 

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA