Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Cofio’r rhai a sicrhaodd Heddwch yng Nghymru

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8 Mawrth 2016, mae Cymru dros Heddwch yn rhoi sylw i’r rôl ganolog bu i fenywod Cymru ei chwarae yn yr ymchwil am heddwch - ac wrth baratoi i ddathlu Pen-blwydd Pererindod Heddwch Gogledd Cymru yn 90 oed (Mai 1926), mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn lansio galwad i gymunedau ac unigolion i rannu eu ‘Hanesion Cudd’.

Mae thema’r IWD2016, #PledgeforParity, yn adleisio dyheadau menywod 100 mlynedd yn ôl a oedd yn galw am bleidlais gyffredinol – cydraddoldeb i bleidleisio. Cynigwyd 'Diwrnod Rhyngwladol y Menywod’  yn 1910 gan y Sosialydd Almaeneg Luise Ziest, ac fe’i nodwyd am y tro cyntaf ar 19 Mawrth 1911 ledled cenhedloedd Awstria-Hwngari yn bennaf gyda phwyslais ar hawliau merched i bleidleisio. Cynhaliwyd am y tro cyntaf ar 8 Mawrth 1914, wrth i gymylau’r Rhyfel Byd Cyntaf ymddangos. Yn 1977 mabwysiadwyd y dyddiad fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y Cenhedloedd Unedig yn swyddogol.

Menywod yng Nghymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf

Wrth i ddigwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf ddatblygu, roedd rôl merched yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach i newid am byth – gyda’r uchafbwynt o’r diwedd yn 1918 yn rhoi’r hawl i rai menywod bleidleisio wedi nifer o flynyddoedd yn ymgyrchu am bleidlais i ferched (yr hawl i bleidleisio). Roedd cyfraniad menywod at ymdrech y rhyfel, yn ogystal â’r ymgyrch gwrth-ryfel yn enfawr a digyffelyb. Roedd y frwydr am bleidlais a chael y profiad yn llenwi rolau â mwy o ryddid a adawyd gan ddynion a fu’n ymladd ar y Blaen yn golygu y bu i ferched ddatblygu hyder yn eu gallu i ddylanwadu ar wleidyddiaeth a fu’n faes wrywaidd yn draddodiadol. Canfyddodd nifer ohonynt eu llais drwy nifer o ymgyrchoedd am ryddid a ddaeth i’r amlwg fel ymateb i’r arswyd a cholled bywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.   

Apêl Menywod Cymru at Fenywod America

Women's Petition Title.jpg

Yn 1923-4 cynhyrchodd ac arwyddodd 390,296 o fenywod ledled Cymru ddeiseb wedi’i chynhyrchu’n hardd ar gyfer menywod America, yn gofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad i berswadio’r wlad i ddod yn aelod llawn o Gynghrair y Cenhedloedd, gan ddiogelu heddwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae rhwymiad y ddeiseb ysbrydoledig hon wedi’i gadw yn llyfrgell y Deml Heddwch ers ei hagoriad yn 1938 – ond credir fod y ddeiseb ei hunan wedi’i hanfon i Philadelphia.

Mae Cymru dros Heddwch yn chwilio am wirfoddolwyr a haneswyr a allai o bosib ein cynorthwyo i ddarganfod stori’r ddeiseb – ac ar gyfer unrhyw gysylltiadau ymchwil yn America, y llwyddiant mwyaf fyddai ailddarganfod llawysgrif wreiddiol y ddeiseb a’r potensial i aduno’r ddwy ran.

 “O gyfnod ymhell cyn y rhyngrwyd neu offer ymgyrchu... Beth fyddai’n ei gymryd heddiw i ailgynnau angerdd o’r fath am heddwch?”

Gorymdaith Heddwch Merched Gogledd Cymru 1926

Ar 26 Mai 1926, cyrhaeddodd 2000 o fenywod o bentrefi o amgylch y dref ym Mhenygroes yn Sir Gaernarfon i’r dref farchnad yn cario’r faner las am heddwch. Dyma oedd dechreuad y Bererindod Heddwch; teithiodd y grŵp 150 o filltiroedd mewn ceir a siarabangau, gan gynnal 15 o gyfarfodydd yn cynnwys yn adfeilion castell Conwy, ym Mae Colwyn a Rhyl, cyn ‘ymuno’ yng Nghaer gyda menywod o’r Gogledd-orllewin i orymdeithio i Hyde Park yn Llundain, lle cyrchodd dros 10,000 at ei gilydd. 

 ‘Credwn ni, aelodau a chefnogwyr o Bererindod y Tangnefeddwyr, y dylai cyfraith ddisodli rhyfel wrth setlo anghydfodau rhyngwladol. Ymbiliwn ar lywodraeth Ei Fawrhydi i gytuno i ildio pob anghydfod i gymodi a chyflafareddiad. Trwy gymryd yr awenau yng Nghynhadledd Ddirnadaeth arfaethedig Cynghrair y Cenhedloedd, ymbiliwn iddi ddangos nad yw Prydain Fawr yn bwriadu apelio i rym.’

"Oes modd i ni nodi pen-blwydd pererindod heddwch y menywod eleni yn 90 oed ym mis Mai 2016, trwy ail-greu camau ein hadeiladwyr heddwch arloesol?” O Benygroes i Gaernarfon, Bangor, Conwy, Bodelwyddan, Rhyl a Chaer...buasem wrth ein bodd yn ail-greu hanes y bererindod hanesyddol   hon. Os fyddech â diddordeb bod yn rhan o ail-greu hanes, a chreu hanes ac ysbrydoliaeth newydd i heddychwyr sy’n fenywod– cysylltwch â thîm Cymru dros Heddwch (gwelwch y manylion isod)!

Arweiniodd y Bererindod Heddwch at ffurfio Cyngor Heddwch Menywod Gogledd Cymru, Cynghrair Rhyngwladol y Menywod am Heddwch a Rhyddid.

Arwyr Heddwch Actif Heddiw

Mae menywod yn parhau i fod ar y blaen yn symudiadau heddwch Cymru heddiw, drwy grwpiau lleol am heddwch a chyfiawnder, symudiadau megis Cymdeithas y Cymod, CND Cymru, y Crynwyr yng Nghymru a Gwerin y Coed.

Ym mis Medi 2014, bui i 4 merch yng Ngwynedd sôn am eu hunain ar y penawdau cenedlaethol am brotestio yn erbyn profion drôn (rhagchwilio di-griw ac awyren fomio) yng Nghymru.

Mae menywod Cymreig yn chwarae rôl weithgar wrth wneud safiad am hawliau dynol a heddwch heddiw, megis Cydlynydd Dysgu Cymru dros Heddwch ei hunan Jane Harries a deithiodd i Israel a Phalestina yn 2015 fel monitor hawliau dynol ac fe gynhyrchodd y ffilm fechan hon/adnoddau dysgu am heddwch.

Yn ddiweddarach yn 2016, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn lansio cystadleuaeth Arwyr Heddwch gydag ysgolion ledled Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc i enwebu menywod.

Galw am Hanesion Heddwch

Yn ystod 2016-17 gobeithia’r Ganolfan (WCIA) adeiladu archif gynhwysfawr a hygyrch o Dreftadaeth Heddwch Cymru, ac mae rôl menywod yn ganolog i’r stori honno. Os wyddech chi am unigolion, grwpiau neu storïau o’ch cymuned a fyddai’n gallu cyfrannu at hyn buasem yn falch iawn o glywed gennych!

Ewch i’n Tudalen Hanesion Cudd a’r adnoddau y gellir eu lawrlwytho. 

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

Digwyddiadau diweddaraf

  • 11/11/2017 19:30
    This Evil Thing / Galeri
    Ionawr 1916: Mae Bert Brocklesby yn athro ac yn bregethwr yn ei gapel ...

    Darllenwch ragor...
WCIA