Adroddiad ar ddarlith 'Gwrthwynebiad i RhB1 ym Mhrydain' gan Rupert Gude

Gwrthwynebiad ym Mhrydain i’r Rhyfel Byd Cyntaf

 

Bu ymateb brwdfrydig i ddarlith Rupert Gude ar y ‘Gwrthwynebiad ym Mhrydain i’r Rhyfel Byd Cyntaf’ yn Y Morlan, Aberystwyth, ar y 16eg o Fawrth 2016, gyda chyfraniadau gwerthfawr pellach gan y gynulleidfa.

 HH lecture Rupert Gude Opposition to WW1.jpg

Trafododd Gude nifer o’r ffactorau a arweiniodd at y Rhyfel Byd 1af gan gynnwys buddiannau ymerodrol ac economaidd, a’r ras arfau ymysg y cenhedloedd. Amlygodd Gude rai agweddau a gyfrannodd at ryfel megis cenedlaetholdeb a drwgdybiaeth o dramorwyr, safbwyntiau’r wasg, agweddau diwylliannol gan gynnwys mawrygu rhyfeloedd a chyfleoedd gyrfa fel swyddogion i feibion teuluoedd cefnog, difaterwch arweinwyr mewn grym a welai rhyfela fel modd naturiol i ddatrys problemau, ac anghydfod gartref gan gynnwys y galw am hawliau merched, streiciau a thrafferthion yr Iwerddon.

 

Ymhell cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, esboniodd Gude, roedd cyfleoedd a gollwyd i ddatrys y tensiynau. Cyflwynodd y mudiadau a’r unigolion fu’n amlwg eu rhybuddion am ryfel a’u hymdrechion dros heddwch gan gynnwys: Frederic Passy, Elie Duconumm, Charles Gobat, Sir Randal Cremer, Ernesto Moneta, Louis Renault, Klas Arnoldson, Fredrick Badjer, Alfred Fried, Henri La Fontaine ac Emily Hobhouse.

 

Ymgyrchydd heddwch arall amlwg oedd Bertha von Suttner, a ddywedodd yn Oslo 1905:

“Meanwhile, in Central and Western Europe which narrowly escaped war, we have distrust, threats, sabre rattling, press baiting, feverish naval buildup, and rearming everywhere.

“In England, Germany and France novels are appearing in which the plot of a future surprise attack by a neighbour is intended as a spur to even more fervent arming.

“Fortresses are being erected, submarines built, whole areas mined, airships tested for use in war; and all this with such zeal - as if to attack one's neighbour were the most inevitable and important function of a state.”

 

Ystyriodd Gude tair carafán o oedd yn ymwneud a rhyfel: y rhai a fynnai rhyfel, y rhai mewn grym a allent fod wedi gwneud mwy i atal y rhyfel, a’r rhai a ddangosodd wrthwynebiad i ddechrau cyn ymostwng i ryfel.

  • Ymysg y rhai a oedd yn gefnogol i ryfel crybwyllodd Gude: Helmuth von Molkte, Franz Conrad von Hotzendorf, Alexander von Krobatin, Leopold Berchtold, Sergey Sasanov, Col Dragutin Dimitrijevic, Cadfridog Joseph Joffre, Winston Churchill, Cadfridog Henry Wilson, Arglwydd Milner, Arglwydd Lansdowne a deallusion megis Rudyard Kipling a Rider Haggard.
  • Roedd rhai mewn grym a allai fod wedi gwneud mwy i atal y rhyfel yn ôl Gude yn cynnwys: Ymerawdwr Awstria Hwngari Franz Joseph; Czar Nicholas II a Gweinidogion Rwsia; Kaiser Wilhelm yr Almaen; Canghellor Theodore Bethmann-Hollweg o’r Almaen; Arlywydd Poincaré o Ffrainc; Syr Edward Grey, Ysgrifenydd Tramor Prydain; y Prifweinidog Asquith; a’r Brenin Sior V.
  • Yn ogystal soniodd Gude am eraill a welir yn ymostwng i’r drefn er gwrthwynebu rhyfel i ddechrau: Y Blaid Sosialaidd Ddemocrataidd yn yr Almaen a’r arweinydd Hugo Haase, Istvan Tisza Prifweinidog Hwngari, Nikola Pasic Prifweinidog Serbia, ac ym Mhrydain Syr John Simon, Arglwydd Beauchamp, Lewis Harcourt a Lloyd George.

 

 

Rhannodd Gude wybodaeth eang am y rhai fu’n gwrthwynebu’r rhyfel yn rhyngwladol ac ym Mhrydain gan amlygu cyfraniad merched i’r ymgyrchu. Trafododd y mudiadau a’r unigolion a aethant ati i gefnogi gwrthwynebwyr cydwybodol yn ogystal â rhannu ei farn ar ddau sydd â chyswllt agos iawn a Chymru sef Keir Hardie a Bertrand Russell.

  • “Pam”, gofynnodd Rupert Gude, “nad oes cofebion i Keir Hardie ar draws Prydain?” Albanwr ac ymgyrchydd dros hawliau’r gweithwyr, hawliau merched a hunanlywodraeth i India; ef oedd yn arwain yr ymgyrch dros heddwch ar ran y Blaid Lafur Annibynnol yn y senedd. Un gofeb yn unig sydd iddo ym Mhrydain, sef yn Aberdar, Merthyr Tudful lle bu’n Aelod Seneddol, er, yn ôl Gude, roedd yn haeddu cydnabyddiaeth ehangach ar draws Prydain.
  • Ganwyd a bu farw’r athronydd Bertrand Russell yng Nghymru ac roedd ei ymdrechion i ganfod heddwch trwy gydol ei fywyd yn amlwg. Carcharwyd ef ddwywaith am ei ddaliadau, unwaith yn 1918 a’r ail dro yn 1961 pan yn 89 oed. Cyflwynodd Gude rhai o’i ddyfyniadau Russell sy’n datgelu ei argymhelliad i wrthwynebu’r RhB1af:

I knew that it was my business to protest, however futile protest might be. As a lover of truth, the national propaganda of all the belligerent nations sickens me.

“As a lover of civilisation, the return to barbarism appalled me.  As a man of thwarted parental feeling, the massacre of the young wrung my heart…..”

“No great principle is at stake, no great human purpose is involved on either side….The English and the French say they are fighting in defence of democracy but they do not wish their words to be heard in Petrograd or Calcutta.”

 

Bu farw dros filiwn o filwyr o Brydain a’i hymerodraeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu’n ganrif cyn i Brydain lwyddo talu’r dyledion beichus a ddeilliodd o’r rhyfela. Ategodd Gude amcanion Cymru dros Heddwch wrth ddweud ei fod yn awyddus iawn i genedlaethau nawr a’r dyfodol ddeall hanes ein rhyfeloedd yn well er mwyn ymgeisio at ddyfodol mwy heddychlon.

 

Bu cyfraniad Rupert Gude i gyfres darlithoedd Cymru dros Heddwch yn un gwerthfawr wrth gyflwyno cyd-destun y cyfleoedd am heddwch cyn y rhyfel, gwrthwynebiad yn ystod y rhyfel, a’r seiliau i’r ymgyrchu dros heddwch gan ferched ar ôl y rhyfel.

 

Fel yr esbonia Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch: “Yn dilyn erchyllterau’r rhyfel a cholledion garw cymunedau yng Nghymru, daeth nifer o ymgyrchwyr heddwch, a ffieiddiwyd atynt rhwng 1914-1918, i’r amlwg fel arweinwyr ysbrydoledig. Etholwyd Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn Aelodau Seneddol; yn 1922 sefydlwyd yr Urdd fel mudiad heddwch i’r ifanc; yn 1923 arwyddodd 390,296 o ferched ddeiseb ar i America ymuno a Chynghrair y Cenhedloedd; ac yn 1926 ymunodd miloedd o ferched ym Mhererindod Heddwch Gogledd Cymru o Gaernarfon i Lundain.”

 

Ychwanegodd, gan gyfeirio at safle we www.cymrudrosheddwch.org : “Mae’r hanesion hyn am effaith rhyfel a threftadaeth heddwch, o gael eu casglu yn ein cymunedau, am ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i adnabod ein cyd-ddibyniaeth ryngwladol.”

 

Croesawir cyfraniadau ymchwil neu wybodaeth ar ffurf ‘hanesion cudd’ i’w rannu gyda’r cyhoedd drwy ein safle we neu linc i waith sydd wedi ei gyhoeddi eisoes. Cynigir hyfforddiant hefyd i wirfoddolwyr a grwpiau sydd yn dechrau ar y dasg o gasglu eu treftadaeth deuluol neu gymunedol.

 

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA