Arddangosfa Cofio Dros Heddwch Bodelwyddan

Llyfr y Cofio RhB1 yn dod i Gastell Bodelwyddan 

O'r 30 ain Ebrill tan 19eg Mehefin, bydd Llyfr y Cofio Cenedlaethol y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei arddangos yng Nghastell Bodelwyddan mewn partneriaeth â’r prosiect Cymru dros Heddwch.  Mae’r Llyfr, sydd ar ffurf caligraffi addurnol, yn rhestru dros 35,000 o filwyr Cymreig a gollodd eu bywydau. Mae hwn yn gyfle prin i weld y Llyfr, gan ei fod fel arfer yn cael ei ddiogelu yn ei gyflwr gwreiddiol gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn y crypt yn y Deml Heddwch, Caerdydd. Mae'r ‘Arddangosfa Cofio dros Heddwch’ ym Modelwyddan yn un mewn cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â’r rhaglen Cymru’n Cofio, a bydd y cyhoedd yn cael cyfle i drawsgrifio enwau'r milwyr hynny a gollodd eu bywydau fel "gweithred goffáu ddigidol".

Esboniodd Craig Owen, pennaeth Cymru dros Heddwch: "Rydym yn falch iawn o gefnogi menter treftadaeth Castell Bodelwyddan, drwy arddangos Llyfr y Cofio. Mae'r genedl yn ddyledus i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru am sganio’r holl dudalennau, a’n galluogi i wneud y Llyfr yn hygyrch yn ddigidol i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rydym yn annog y cyhoedd i fynd i’r arddangosfa hon, i drawsgrifio enwau'r milwyr hynny a gollodd eu bywydau o Lyfr y Cofio a hefyd, i ddod o hyd i elfennau o dreftadaeth leol tra diddorol am y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n gysylltiedig â Chastell Bodelwyddan."

Dywedodd Morrigan Mason, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan: "Mae stori Castell Bodelwyddan a'r Parc, a’r rôl mae wedi ei chwarae yn ei hanes cymunedol, yn dod yn arbennig o ingol wrth i ni edrych yn ôl ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn rhan o'r Gwersyll Cinmel enfawr, a hyd heddiw gallwch weld olion y systemau ffosydd a ddefnyddiwyd ar gyfer hyfforddiant ar dir y Castell.           

"Mae yna lawer o ddiddordeb yn yr arddangosfa hon. Mae ein gwirfoddolwyr yn datgelu straeon personol diddorol am y bobl sy’n cael eu coffáu ar gofeb Bodelwyddan, a bydd yr hanesion hyn yn cael eu datgelu yn yr arddangosfa.            

"Mae ein hymchwil hefyd yn mynd â ni ar deithiau i archwilio hanesion cudd eraill, fel beth ddigwyddodd i deuluoedd mewn profedigaeth, mudiad yr etholfreintwragedd ar ôl y rhyfel, a thwf y fenter heddwch gref yng Nghymru yn y 1920au. Mae'r hanesion hyn yn dechrau gwneud cysylltiadau gyda nifer o arddangosion pwysig yr Oriel Bortreadau Genedlaethol sydd yn cael eu harddangos yma yng Nghastell Bodelwyddan, fel yr etholfreintiwraig Millicent Garrett Fawcett."

Agoriad ‘Arddangosfa Cofio dros Heddwch’: 30 Ebrill, 2016

Bydd yr ‘Arddangosfa Cofio dros Heddwch’ yn agor yng Nghastell Bodelwyddan am 2pm, gyda’r ddarlith 'Stories from Flintshire's WW1 Memorials' gan Eifion a Viv Williams. Roedd Sir y Fflint yn sir llawer mwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o’i gymharu â heddiw,  ac aeth pobl Sir y Fflint i drafferth mawr i gofnodi beth oedd wedi digwydd i'w dynion yn ystod y gwrthdaro. Mae Eifion a Viv yn gyd-sefydlwyr a rheolwyr www.flintshirewarmemorials.com, sef gwefan sy'n adrodd hanesion y milwyr hynny a gollodd eu bywydau yn y rhyfel. Yn eu darlith, byddant yn adrodd rhywfaint o’r hanesion hyn. 

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim,  a gallwch archebu tocynnau o Gastell Bodelwyddan drwy ffonio 01745 584060.

Cofrestru

Darlith gyhoeddus Rhyl 24 Mai 2016:

Bydd yr arddangosfa hefyd yn dechrau archwilio rhai o themâu eraill y prosiect Cymru dros Heddwch, yn enwedig y cwestiwn craidd: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch? I gyd-fynd â'r arddangosfa yng Nghastell Bodelwyddan, bydd darlith ar y cyd yn cael ei rhoi ar Ffoaduriaid o Wlad Belg yng Nghymru ac yn y Rhyl. Bydd y ddarlith gyda nos am 6pm yn y Theatr Fach Rhyl yn cael ei chyflwyno gan ymchwilydd blaenllaw y DU, Dr Christophe Declercq, a gan yr ymchwilydd lleol brwd, Anthony Vitti, sydd, drwy weithio gydag eraill yn y gymuned, wedi rhoi Rhyl ar y map gyda gwefan Ffoaduriaid Belgaidd Y Rhyl: https://refugeesinrhyl.wordpress.com/ .

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau cysylltiedig drwy fynd i http://www.cymrudrosheddwch.org/wfp/hafan.html.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA