Darlith Cofebion hen Sir y Fflint yn Lansiad Arddangosfa Bodelwyddan

Darlith deimladwy ar Gofebion Rhyfel y Rhyfel Byd Cyntaf yn lansiad Castell Bodelwyddan o arddangosfa Llyfr y Cofio

 

Cyflwynodd Viv ac Eifion Williams y ddarlith 'Stories from Flintshire’s WW1 Memorials' i lansio’r arddangosfa 'Cofio dros Heddwch' o Lyfr y Cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghastell Bodelwyddan sy'n parhau tan y 19eg o Fehefin. Cafodd y ddarlith ganmoliaeth uchel gan y rhai hynny oedd yn bresennol, a gafodd gyfle hefyd, i weld y Llyfr y Cofio go iawn ac i drawsgrifio rhai o enwau’r milwyr a gollodd eu bywydau.

 

DARLITH ‘STORIES FROM FLINTSHIRE’S WW1 MEMORIALS’


 HH Bodelwyddan lecture - VIV.jpg

Mae'r safle http://www.flintshirewarmemorials.com/ yn gyflawniad nodedig, sy'n cynnwys dros 2000 o dudalennau o waith ymchwil a dros 3000 o ddelweddau. Dechreuodd Eifion drwy bwysleisio pwysigrwydd rhannu trwy'r wefan. Yn wir, unwaith y cafodd y wefan ei sefydlu, tyfodd yr ymchwil cychwynnol i un gofeb leol yn aruthrol, i gyfnewid gwybodaeth gyda phobl o bob cwr o'r byd. Anogodd yr ymateb brwdfrydig hwn i Eifion a Viv ymestyn eu prosiect i gwmpasu hen 'Sir y Fflint' i gyd, ardal a oedd yn cynnwys Bodelwyddan. Mae eu haelioni wrth rannu’r holl ymchwil ar-lein yn cael ei wobrwyo drwy wybod bod cyfartaledd o tua 200 o bobl y dydd yn edrych ar eu gwefan.


Cyflwynodd Viv rai o'r straeon personol y tu ôl i'r enwau, sef y dynion a'r menywod y cafodd eu bywydau eu cwtogi mor drasig oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Enynnodd Viv ddiddordeb ei chynulleidfa gyda chyfuniad o fanylder ac empathi, wrth iddi rannu straeon bywyd rhai o'r unigolion sydd yn cael eu henwi ar y cofebion. Mae’r canlynol yn rhai o'r bobl y tynnwyd sylw atynt yn y ddarlith.

 

Bodelwyddan:

Roedd William Albany, o Ontario, yn Indiaid Americanaidd brodorol o lwyth Alongquin.  Croes syml oedd ei lofnod ar y papurau ardystiad. Ar ôl gwasanaethu yn Ffrainc gyda Milwyr Rheilffordd Canada, bu farw yng ngwersyll Kinmel o niwmonia bronciol a achoswyd gan y ffliw.
Disgrifiodd William Lyle Haney, o Ganada, ond yn wreiddiol o stoc ffermio yn Minnesota, ei hun fel 'ranshwr', ac roedd yn Ynnwr yn Artileri Canada wrth aros i ddychwelyd i’w famwlad ym

Mharc Cinmel ym mis Mawrth 1919. Cafodd ei saethu yn ei wyneb yn ystod y 'terfysg' a gynhaliwyd yn y gwersyll.

 

Bagillt:

Roedd Ellen ac Annie Crosby yn chwiorydd o Toxteth a oedd wedi ymfudo i Ganada ond â mam oedd yn byw ym Magillt. Teithiodd y ddwy adref, gyda’r bwriad o weld eu mam, ar y Lusitania a gafodd ei tharo gan dorpido oddi ar arfordir Iwerddon gan gwch U Almaenaidd ar 7 Mai 1915. Ni ddaethpwyd o hyd i gorff Annie, ond labelwyd corff Ellen fel 133, a chafodd ei chladdu mewn bedd torfol yn Cobh.
Rhoddodd Viv y cyd-destun ehangach hefyd, drwy ddangos tystiolaeth o’r posteri propaganda Prydeinig yn cyhuddo'r Almaenwyr o farbariaeth am daro llong sifil, ond rhannodd hefyd, rybudd blaenorol Llysgenhadaeth yr Almaen bod "teithwyr sydd yn hwylio yn y parth rhyfel ar longau Prydain Fawr neu ei chynghreiriaid, yn gwneud hynny ar eu menter eu hun", a chyfeiriodd at ddangosyddion mwy diweddar oedd yn dangos fod gan yr Almaenwyr sail i gredu bod y Lusitania yn cludo arfau. Roedd hwn yn atgof amserol mai gwirionedd yw’r elfen gyntaf a gollir mewn rhyfel wrth ddelio gyda thystiolaeth hanesyddol mewn perthynas â rhyfel a phropaganda.
Roedd Arthur Rowland Jones yn un arall oedd â chysylltiad gyda’r Lusitania, pan, fel Prif Swyddog, efe oedd yn rheoli Bad Achub 15, a achubodd 80 o bobl - rhai a dynnwyd o'r môr. Fodd bynnag, tra roedd yn gyfrifol am yr 'Avanti', cafodd ei ladd mewn brwydr ym mis Chwefror 1918.

 

 

Cei Conna:
Roedd stori George Povey yn un trist iawn. Cafodd ei saethu ar yr 11eg o Chwefror 1915 ar doriad gwawr am ‘droi cefn ar ei swydd’; yn 2006 derbyniodd bardwn. Yn wir, roedd yn wirfoddolwr cynnar ym mis Awst 1914 ac yn gorporal yng nghatrawd Sir Gaerlleon. Ond yn gynnar ar fore 28 Ionawr, gadawodd ef a phedwar milwr cyffredin y ffos mewn 'panig', yn ôl pob golwg, yn credu bod yr Almaenwyr yn eu ffos. Nid oes cofnod o dystiolaeth yn ei amddiffyniad ac felly, bydd achos y 'panig' yn parhau i fod ynghudd, ond erys y ffaith yw y bu farw George yn 23 oed ar ôl gwasanaethu am ddim ond chwe wythnos yn Ffrainc.
Atgoffaodd lun o dad balch gyda'r brodyr Rogers, ar y diwrnod yr ymrestront yn Shotton, y gynulleidfa am y rhwysg a’r seremoni gychwynnol o amgylch yr ymgyrch recriwtio ym 1914. Erbyn mis Awst 1915, roedd dau o’r brodyr wedi marw. Yn Gallipoli, cafodd Edgar ei glwyfo mewn brwydr llaw â llaw a chafodd Douglas, a ddaeth i achub ei frawd, ei ladd gan fidog. Tra roedd Edgar yn cael ei gludo i’r ysbyty ar y llong, roedd y trydydd brawd, Rowland, wedi ymuno â'r parti stretsiers a dod o hyd i’w frawd Douglas, oedd wedi cael ei ladd.

 

Bettisfield:
Ymrestrodd Walter Maddox, a fu’n arwr plentyndod am ei ymdrechion i achub ffrindiau ysgol o bwll rhew, ym mis Awst 1914 fel gof, ond bu farw o TB ar 26 Mehefin 1918. Mae ei stori yn adlewyrchu'r heriau iechyd oedd yn cael eu hwynebu gan filwyr, gan fod ei salwch yn cael ei briodoli i "wasanaeth gweithredol, oerfel a chaledi". Dioddefodd am chwe mis cyn i’r TB gael ei ddiagnosio, a threuliodd flwyddyn arall ar ei ben ei hun mwy neu lai, cyn iddo farw.


 HH EIfion & VIv Williams FWM.jpg

Viv and Eifion’s delivery of the histories behind the names on the Flintshire war memorials was outstanding, with the feedback indicating appreciation from all who attended the lecture. Therefore, rather than outlining more of the content, including the histories of Walter Brooks and his mother’s potato whiskey or Willie Hodkinson and the pain of missed communications, you will gain more insight by attending the presenters’ next speaking engagements or by reading the extensive volunteer research on www.flintshirewarmemorials.com.

 

LAUNCH OF BOOK OF REMEMBRANCE EXHIBITION

 

Admiration for the dignity afforded to the names in the Book of Remembrance was evident when Morrigan Mason, Deputy Director of Bodelwyddan Castle Trust, invited the visitors to attend the launch of the ‘Remembering for Peace’ exhibition. Side by side with the actual Book, usually kept in the crypt of the Temple of Peace, was a screen showing the scanned pages, thus allowing people to search for names digitally.

 

Some attendees had noted family names in advance and were ready to research. Scrolling on-line through the pages of the Book of Remembrance, digitally scanned and by the National Library of Wales and accessible on the People’s Collection Wales, Menai Williams found the name of her great-uncle Hugh Thomas Davies from Abergele. She transcribed the name in a digital act of remembrance. Claire Lewis, an experienced research volunteer for the Flintshire War Memorials, also found relatives, including her great great uncle, Albert Cartwright. Yet another who succeeded in transcribing the name of a relative, Samuel Ellis, was Morrigan Mason.

 HH - BoR Menai finds relative.jpgHH BoR Claire shows how its's done.jpg

Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan arwyddocaol yn yr arddangosfa, gan ymchwilio i'r hanesion cudd yn ogystal â hwyluso cyfleoedd trawsgrifio i ymwelwyr. Un o'r straeon difyr a ddatgelwyd gan y gwirfoddolwr Patricia Satchell oedd hanes John Leonard Nuttall a gafodd ei anafu’n ddifrifol gan shrapnel ym 1916 ac a anfonwyd adref at ei fam i wella mewn tŷ ar ystâd Bodelwyddan. Fodd bynnag, roedd effaith y profiad rhyfel ar ei iechyd meddwl yn ormod, ac ym mis Mehefin 1916, crogodd ei hun. Mae ei stori yn ein hatgoffa’n amserol, yn ystod blynyddoedd canmlwyddiant Coffa, nad yw’r holl filwyr y dinistriwyd eu bywydau gan y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu coffáu ar gofebion rhyfel.  Goroesodd llawer yn gorfforol ond eu dinistrio yn feddyliol oherwydd siel-syfrdandod. Diolch byth, erbyn heddiw, mae mwy o ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o faterion iechyd meddwl, er bod pryderon yn parhau i'r 21ain Ganrif ynghylch effaith lawn Anhwylder Straen Wedi Trawma ar filwyr a’u brwydr dros ddarpariaeth ddigonol.

HH bodelwyddan Patricia & LN (1).jpg

Mae rhagor o straeon diddorol a heriol yn cael eu portreadu ar y paneli yn yr arddangosfa. Os byddwch yn cael cyfle i ymweld â'r arddangosfa yng Nghastell Bodelwyddan cyn iddi ddod i ben ar y 19eg o Fehefin, fe welwch fod y llyfr yn agored ar y dudalen sy’n cynnwys John Leonard Nuttall, un o dros 35,000 o straeon dynol sydd y tu ôl i'r rhestr addurnedig o enwau yn Llyfr y Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA