Y croeso a gafodd Ffoaduriaid Belg yn y Rhyl ac yng Nghymru yn ystod RhB1

Yn gryno:

Darlith Gyhoeddus ‘Ffoaduriaid o Wlad Belg yng Nghymru a Rhyl’

gan Dr Christophe Declercq & Anthony Vitti

24 Mai 2016, 6pm,

Theatr Fach y Rhyl,  Vale Road, Rhyl LL18 2BS

Croeso i bawb!

Trefnir gan Cymru dros Heddwch i gydfynd ag arddangosfa Llyfr y Cofio yng Nghastell Bodelwyddan.

Cyfle i ganfod mwy am Ffoaduriaid o Wlad Belg yng Nghymru a Rhyl

 Rhyfeddod yw dysgu i Gymru dderbyn 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg a oedd yn dianc rhag yr Almaenwyr ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf a diddorol yw ystyried y trefniant am lety, cynhaliaeth, addysg a gwaith i’r ffoaduriaid hyn mewn cyfnod llawer mwy anghenus na Chymru heddiw. Fel rhan o brosiect Cymru dros Heddwch, ac i gyd-fynd ag arddangosfa Llyfr y Cofio yng Nghastell Bodelwyddan, bydd darlith gyhoeddus gan arbenigwr yn y maes, Dr Christophe Declercq, yn Theatr Fach y Rhyl ar Ddydd Mawrth, 24ain Mai am 6pm. Yn cyd-fynd a’r ddarlith bydd ymchwilydd lleol, Anthony Vitti, yn cyflwyno profiadau’r ffoaduriaid yn y Rhyl a’r camau a gymerwyd gan y dref i ail-sefydlu cyswllt gyda disgynyddion y ffoaduriaid a ddychwelodd yn ôl i Wlad Belg ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.

 

Gadawodd y ffoaduriaid waith celf, crefft a gwaith adeiladu sydd yn dal i gael eu gwerthfawrogi yng Nghymru heddiw megis sawl plac, gan gynnwys un hardd ym Mangor, cerfiadau yn eglwys Llanwenog a Llanfihangel-y-CreuddynRhodfa'r Belgiaid ym Mhorthaethwy ac o’r arwyddocâd cenedlaethol mwyaf, cerfwaith cywrain Cadair Ddu Eisteddfod Genedlaethol 1917, a ddyfarnwyd i’r bardd Hedd Wyn a fu farw ynghynt yn Passchendaele.

 HH - CD aberystwyth prom.jpg hh rhyl belgian text (3).jpg 

Mae’r siaradwr gwadd, sef Dr Christophe Declercq sy’n ddarlithydd yn UCL, wedi bod yn ymchwilio i hanes ffoaduriaid Belg ers dros ddegawd, ac mae'n swyddog cyswllt y DU ar gyfer prosiect a drefnir ar hyn o bryd gan Sefydliad Hanes Cymdeithasol Amsab, sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Ghent, Gwlad Belg.  Meddai: “Myfyrio ar y gorffennol i oleuo’r presennol yw pwrpas hanes. Bydd y broses hon o rannu gwybodaeth rhwng Gwlad Belg a Chymru yn gwella ein dealltwriaeth o hanes y Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roeddwn yn falch iawn i ymateb i'r cyfle hwn i rannu fy ngwaith ymchwil drwy'r prosiect Cymru dros Heddwch, yn enwedig yn y Rhyl, gan fod yma waith arbennig ar y gweill yn y gymuned i ddadorchuddio hanes y Belgiaid a fu’n aros yn lleol gan mlynedd yn ol. Rhaid i mi ganmol Toni Vitti a phawb sy’n cefnogi’r safle refugeesinrhyl.wordpress.com, gan ei fod yn gyfrwng i bawb ar draws Cymru, yn ogystal a Gwlad Belg, i ddysgu am brofiadau’r ffoaduriaid yn lleol. Gall Rhyl hefyd ymhyfrydu yn y lluniau eiconic sydd wedi goroesi yn dangos y derbyniad twymgalon a gafwyd pan gyrhaeddodd y ffoaduriaid cyntaf – gwelir yno dorf enfawr i’w croesawu. Rwy’n edrych ymlaen felly i gyfarfod a phobl Rhyl a Gogledd Cymru, er mwyn rhannu fy ymchwil, ond hefyd er mwyn dysgu mwy ganddynt am unrhyw hanesion newydd a ddaw i’r fei am y ffoaduriaid o Wlad Belg yng Nghymru. Bu i tua 250,000 o ffoaduriaid gael llety ym Mhrydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ag eto erbyn 1919 roedd bron pob un wedi dychwelyd i Wlad Belg. Mae cyfnewid gwybodaeth, fel bydd yn digwydd yn y ddarlith yn Rhyl, yn rhan bwysig o ddeall ein hanes yng Ngwald Belg yn ogystal ag yng Nghymru.”

Dywed Anthony Vitti, a dderbyniodd Wobr Llysgenad Maer Rhyl yn 2015 am ei waith ar y proseict, “Dechreuodd fy niddordeb yn Ffoaduriaid o Wlad Belg pan ddarllenais darn ar safle we Clwb Hanes y Rhyl yn 2012. Nid oeddwn erioed wedi clywed am y ffoaduriaid cyn hyn ac roeddwn yn chwilfrydig. Canfyddais fod un wedi ei gladdu yma mewn bedd di-enw a phenderfynais y dylid unioni’r cam, felly mi es i Wlad Belg i ganfod ei deulu er mwyn cael caniatad i osod plac. Ond, fel ag y mae wrth ymchwilio i hanes, fe ddois ar draws hanesion lu eraill a bellach mae dros 125,000 o bobl ar draws y byd wedi edrych ar ein safle we ‘RefugeesinRhyl’, hanner ohonynt o wlad Belg. Mae’r ymchwil wedi arwain at wneud cyfeillion newydd, yn lleol yn ogystal a dramor, ac rwyf wrth fy modd fod yr arbenigwr, Dr Christophe Declercq, yn cydnabod ein hymchwil yn Rhyl a Gogledd Cymru gan ddod yma i ddarlithio gyda mi.”

Ychwanegodd pennaeth y prosiect Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Elfennau cyffrous y prosiect Cymru dros Heddwch yw mapio effaith rhyfel a chasglu treftadaeth heddwch Cymru. Gyda chymorth gwirfoddolwyr ar draws Cymru, mae diddordeb gennym mewn datguddio hanesion cudd ac archifau lleol sy'n gysylltiedig â'r profiad Cymreig-Belgaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gwaith Anthony Vitti a’r gwirfoddolwyr eraill lleol, gan gynnwys Clwb Hanes y Rhyl, yn brawf o rol allweddol gwirfoddolwyr yn dadorchuddio ein treftadaeth. Rwy’n annog unrhyw un sydd a diddordeb i wirfoddoli ymhellach i edrych ar y themau a’r cyfleoedd gwirfoddoli ar safle www.cymrudrosheddwch.org.“

Mae croeso i bawb i’r ddarlith sydd am ddim. Mae modd cofrestru rhagflaen i archebu lle neu ddod ar y diwrnod.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.

 

 

 

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA