Darlith yng Nghaernarfon ar Wrthwynebwyr Cydwybodol Cymru yn y RhB1af

Cofio Gwrthwynebwyr Cydwybodol Cymru yn y RhB1af

Mewn Darlith yng 'Ngŵyl Arall' Caernarfon

 

Am wrthod enlistio yn y Rhyfel Mawr i ladd eu cyd-ddyn, cywilyddiwyd gwrthwynebwyr cydwybodol y gorffennol gyda rhodd o bluen wen fel arwydd o lyfrdra. Erbyn heddiw edmygir eu dycnwch, ag eto oherwydd agweddau’r gorffennol, erys llawer o hanes gwrthwynebwyr cydwybodol Cymru yn anhysbys. Bwriad darlith ddadlennol gan Aled Eirug, yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon, ar Ddydd Sadwrn y 9fed o Orffennaf am 12yp, yw datgelu hyd a lled y gwrthwynebiad hwn i’r Rhyfel Mawr yng Nghymru. Mae’r ddarlith, a gyd-drefnir gyda Cymru dros Heddwch, yn ddigwyddiad pwysig yn rhaglen gyffrous ‘Gŵyl Arall’ Caernarfon. Bydd y ddarlith yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.

Aled Eirug - landscape.jpg

­

Eglura Aled Eirug, cyn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfredol y BBC, a bellach arbenigwr ar wrthwynebwyr cydwybodol Cymru yn y RHB1: “Tra'i fod yn bwysig cofio'r milwyr a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel, mae'n bwysig hefyd cofio bod lleiafrif pwysig ac arwyddocaol wedi dewis llwybr arall oedd yn anodd ac yn aml yn amhoblogaidd. Yn y ddarlith yma rwyf yn edrych yn fanwl ar y sawl a wrthwynebodd y Rhyfel, ac yn enwedig ar y cyfanswm o dros 800 o wrthwynebwyr cydwybodol o Gymru.”

Ychwanegodd Pennaeth prosiect Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Mae’r gwrthwynebiad i ryfel yng Nghymru yn agwedd anghofiedig i raddau, ac yn y ddarlith hon, sy’n gyfle i gael blas ar ymchwil blaenllaw Aled Eirug yn y maes, bydd hefyd cyfle i ategu ein hapêl i gasglu hanesion cudd am y Gwrthwynebwyr Cydwybodol. Gobeithio bydd sylweddoli arwyddocâd y gwrthwynebiad yn ysbrydoli cymunedau a theuluoedd i ymchwilio ymhellach a gwirfoddoli i rannu eu hanesion cudd hwythau gyda’r genedl, drwy gynllun Cymru’n Cofio.”

Bydd ffocws ar wrthwynebwyr cydwybodol yn parhau yng Nghymru dros yr haf gyda chyhoeddi cofrestr gwrthwynebwyr cydwybodol y RhB1af yng Nghymru, bas-data a gasglwyd gan yr academydd Cyril Pearce o Brifysgol Leeds. Ar y gweill hefyd mae arddangosfa nesaf Cymru dros Heddwch, sef ‘Cred a Gweithred’, sydd am fod yn cyflwyno hanes gwrthwynebu cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o bersbectif Cymru.

Mae digwyddiadau eraill ‘Gŵyl Arall’ yng Nghlwb Canol Dre yn cynnwys cyflwyniad Dr Elin Jones ar y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Swffragetiaid ar Ddydd Sadwrn am 4:30pm. Yna ar y Sul am 1:30pm bydd Menna Elfyn yn cynnal sesiwn ‘Ffoaduriaid a’u Ffrindiau’ gydag awduron cenedlaethol blaenllaw a llenorion sydd wedi cael lloches yng Nghymru, ac eitem arall i hoelio’r sylw am 4:30 fydd cyflwyniad Ifor ap Glyn ar hanes y milwr Dafydd Jones o Landdewi Brefi ar ‘Y Lon i Mametz’. Ceir gwybodaeth lawn yn rhaglen ‘Gŵyl Arall’.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i ganfod heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Aled Eirug yn cwblhau ymchwil ar gyfer Doethuriaeth ar wrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n Aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom, yn gyn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfredol i BBC Cymru o 1992-2003, yn gyn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghori’r Cyngor Prydeinig 2012-2015, a chynghorydd ar faterion cyfansoddiadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 2007-11. Gweler proffil proffesiynol Aled Eirug fan hyn.

HH-GC-CO pluen-feather.jpg

.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA