Lansio Cofrestr Cymru o Wrthwynebwyr Cydwybodol y RhB1af

Cymru’n Cofio’r sawl a wrthwynebodd y Rhyfel Byd Cyntaf

Gwrthwynebodd dros 900 o ddynion o Gymru rhag ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd eu cydwybod. Pan gyflwynwyd gorfodaeth filwrol ym 1916, cafodd llawer o wrthwynebwyr cydwybodol eu carcharu am eu credoau, gyda’u hanesion yn cael eu cuddio i raddau helaeth o hanes. 100 mlynedd yn ddiweddarach, yng ngŵyl heddwch fwyaf blaenllaw Cymru - yr Eisteddfod Genedlaethol - mae eu dewrder am gael ei gydnabod yn sgil cyflwyno'r gofrestr gyhoeddus gyntaf o wrthwynebwyr cydwybodol fel rhan o'r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i gefnogi gan raglen Cymru'n Cofio y Cynulliad.

Bydd copi treial o 'Gofrestr Pearce', sef cronfa ddata o wrthwynebwyr cydwybodol y RhB1af, yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod yn y Fenni ar y 4ydd o Awst 2016, am 1 o'r gloch yn y Babell Heddwch. I gyflwyno’r digwyddiad treftadaeth pwysig hwn, bydd yr academydd a chyn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Aled Eurig, yn egluro cefndir y gofrestr, ac yn ateb cwestiynau am Wrthwynebwyr Cydwybodol o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Hwn yw’r digwyddiad cyntaf mewn arddangosfa a fydd yn teithio ar draws Cymru, ac a fydd yn archwilio 'Cred a Gweithred'.  Arddangosfa lle bydd y cyhoedd yn cael eu gwahodd i rannu hanesion cudd y rhai hynny sydd wedi ymgyrchu yn erbyn rhyfel yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.

Meddai Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru: "Heddiw, mae mudiadau gwrthryfel yn rhan annatod o gymdeithas a democratiaeth. Ond yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd gwrthwynebwyr cydwybodol yn gorfod dangos dewrder anhygoel a dioddef caledi mawr i sefyll dros eu credoau. Rydym yn gobeithio y bydd y gofrestr hawdd ei defnyddio hon yn helpu cymunedau, ysgolion a myfyrwyr yng Nghymru i ymchwilio a datgelu hanesion cudd y gwrthwynebwyr cydwybodol hyn o bob rhan o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gronfa ddata yn galluogi defnyddwyr i chwilio am enwau, credoau a chymhellion dros wrthwynebu, am fanylion teuluol rhai Gwrthwynebwyr Cydwybodol, ac am grwpiau o Wrthwynebwyr Cydwybodol o drefi neu siroedd penodol. Wrth i’r ymchwil cymunedol ddatblygu, gall y prosiect Cymru dros Heddwch, gyda’i bartneriaid, gynnig hyfforddiant a llwyfan ar y we i rannu’r hanesion angof hyn gyda gweddill Cymru.

Mae ar Gymru ddyled enfawr am yr adnodd hanes yma i Cyril Pearce, cyn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Leeds, sydd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd am flynyddoedd maith yn casglu gwybodaeth ar gyfer y gofrestr. Bellach wedi ymddeol ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Leeds, mae wedi bod yn gweithio ar hanes gwrthwynebwyr rhyfel Prydain o 1914 i 1918 ers peth amser, a bydd yn cyhoeddi llyfr newydd, Communities of Resistance, yn 2017.

Bydd Aled Eirug, awdurdod ar Wrthwynebwyr Cydwybodol Cymru sydd ar hyn o bryd, yn cwblhau ei Ddoethuriaeth ar y pwnc, yn rhoi rhywfaint o oleuni i ni am Wrthwynebwyr Cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r hanesion unigol diddorol iawn sydd eto i’w datgelu. Meddai “Mae cofrestr o wrthwynebwyr cydwybodol Cymru yn holl bwysig er mwyn clodfori a chofio aberth dros naw cant o ddynion a aberthodd eu rhyddid ac mewn sawl enghraifft eu bywyd, dros heddwch. Wrth inni gofio'r Rhyfel Mawr, mae’n bwysig nad aberth y milwyr a fu farw yn y Rhyfel sydd yn cael ei gofio yn unig, ond hefyd, dewrder ac aberth y dynion hynny a erlidiwyd oherwydd eu penderfyniad i sefyll yn erbyn pwysau cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol yr oes. Bydd y gofrestr yn gatalydd i lawer ymchwilio ymhellach i hanes unigol y gwrthwynebwyr ar draws Cymru, ac yn fodd i gofio nad trwy gario gwn yn unig oedd creu arwyr.”

Yn y lansiad bydd modd cael cyfle i edrych ar y gronfa ddata a threialu'r rhyngwyneb digidol. Ar ôl i’r treial ddod i ben ym mis Awst, ac wedi cael adborth gan addysgwyr, bydd y gronfa ddata gyflawn yn cael ei lansio i’r cyhoedd erbyn y 1af o Fedi, yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd. Ceir mwy o adnoddau addysg ar y pwnc gan Cymru dros Heddwch a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd ffocws y prosiect Cymru dros Heddwch ar wrthwynebwyr cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn parhau gyda’r arddangosfa  'Cred a Gweithred' sy’n cael ei hariannu gan y rhaglen Cymru’n Cofio.  Bydd yr arddangosfa’n cael ei chynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru yn ystod 2016-17. Dylai cymunedau a fyddai â diddordeb mewn cynnal neu gyfrannu hanesion ar gyfer yr arddangosfa gysylltu â cymrudrosheddwch@wcia.org.uk

Mae Aled Eirug yn cwblhau ymchwil ar gyfer Doethuriaeth ar wrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n Aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom, yn gyn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes i BBC Cymru o 1992-2003, yn gyn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghori’r Cyngor Prydeinig 2012-2015, a chynghorydd ar faterion cyfansoddiadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 2007-11. Gweler proffil proffesiynol Aled Eirug fan hyn.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Yr Ysgwrn, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i ganfod heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.

 

 

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA