“A Oes Heddwch?” 100 mlynedd yn ceisio Heddwch yn yr Eisteddod Genedlaethol

100 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon, yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd ym mis Awst 1918, camodd milwr i’r llwyfan - wedi dychwelyd o ffosydd y Rhyfel Mawr – i gynnig creu ‘Undeb Cynghrair y Cenhedloedd’. Galwodd David Davies o Landinam, wedi'i arswydo gan yr hyn a welodd yn y rhyfel, ar bawb yn yr Eisteddfod honno i addo bod yn weithgar dros heddwch – dri mis cyn y Cadoediad a ddaeth â'r Rhyfel Mawr i ben ar 11.11.1918.

100 mlynedd yn ddiweddarach, wrth i'r torfeydd heidio i Gaerdydd, mae ymgyrchwyr dros Heddwch yn gwneud yr alwad hon unwaith eto yn y Babell Heddwch yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 - gyda rhaglen o ddigwyddiadau i nodi'r wythnos. Ewch i:

Eisteddfod Castell-nedd 1918 – Galwad am Heddwch

“Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell-nedd ym mis Awst 2018, awgrymodd David Davies am y tro cyntaf y dylid ffurfio Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, gan ddweud bod gan Gymru rôl bwysig i'w chwarae yn yr ymgyrch dros heddwch ar draws y byd. Pan ffurfiwyd yr Undeb ym 1918 roedd ganddi 3,217 o aelodau, ond erbyn 1922 roedd hyn wedi tyfu'n sylweddol i dros 200,000. Ym 1920, rhoddodd Davies £30,000 i sefydlu cronfa waddol i sefydlu Cyngor Cenedlaethol Cymru ar gyfer Undeb Cynghrair y Cenhedloedd. Erbyn 1922 roedd ganddo 280 o ganghennau lleol, ac erbyn 1926 roedd y nifer wedi tyfu i 652."

Gan Elgan Philips, “Pan gynhaliodd Aberystwyth Gyngres Heddwch Ryngwladol,” Mai 2016

Tyfodd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, a sefydlwyd o ganlyniad i Eisteddfod Castell-nedd 1918, i chwarae rhan allweddol wrth siapio bywyd cenedlaethol yn y dauddegau a'r tridegau, a rhan fawr o ‘ysbryd’ Cymru fel rydyn ni’n ei adnabod heddiw. Bu merched, plant, athrawon, arweinwyr crefyddol, gweithwyr, artistiaid, academyddion a dyngarwyr yn arwain y byd wrth adeiladu ymgyrchoedd heddwch ar lawr gwlad. 

 Welsh Efforts for World Peace, 1920au

Eisteddfod Caerdydd 2018: Ateb yr Alwad

Lansio Taith Heddwch Dinas Caerdydd – Dydd Mawrth 7fed, 2.45 / 3.30yp, Cymdeithasau 3 (Adeilad y Senedd)

Yn 2013, treialwyd Taith Heddwch Teml75 o gwmpas Caerdydd fel rhan o Ddathliad Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru o 75 mlynedd ers agor y Deml Heddwch. Rhwng 2016-18, mae Cymdeithas y Cymod, gyda chyllid gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, wedi bod yn gweithio gyda’r gohebydd Jon Gower, a chyn-Lywydd Llys yr Eisteddfod, y Dr. R Alun Evans, i ddatblygu ‘Taith Heddwch Dinas Caerdydd’ newydd, a fydd yn cael ei lansio yn ystod yr Eisteddfod:

  • 2.45 - Lansio Taith Heddwch Caerdydd. Ymunwch â Jon Gower ac R Alun Evans yn lansiad llyfryn Taith Heddwch Caerdydd. Bydd taith i ddilyn am 15.30. (Noder: bydd angen caniatáu chwarter awr i fynd drwy'r gwiriad diogelwch). Sesiwn Cymdeithas y Cymod.
  • 3.30 – Taith Heddwch Caerdydd. Ymunwch â Jon Gower ac R Alun Evans ar daith gan Gymdeithas y Cymod, gan orffen yng Ngardd Heddwch Genedlaethol Cymru.

   

Yr Ardd Heddwch Genedlaethol: #Gardd30 a #Teml80

Cysegrwyd Gardd Heddwch Cymru yn wreiddiol ar 23 Tachwedd 1988, i nodi hanner can mlynedd ers agor y Deml Heddwch. Claddwyd capsiwl amser gan Richard Mears, disgybl ysgol 8 oed o Gaerdydd, a gwraig 93 oed, Irene Chamberlain, oedd yn cynrychioli mamau’r Rhyfel Mawr y gofynnwyd iddynt agor y Deml Heddwch. Hyd yn hyn, mae dros 40 o gofebau wedi’u cysegru i fudiadau ac unigolion heddwch.

Ar gyfer lansiad Taith Heddwch Caerdydd, mae cynrychiolwyr Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi cynhyrchu taflen newydd sy’n cynnig canllaw i’r cofebau hyn, ac sy’n cynnwys straeon rhai o’r bobl ysbrydoledig sydd wedi’u coffáu yn y gofeb genedlaethol hon yng nghanol y brifddinas.

LAWRLWYTHO CANLLAW I GOFEBAU’R ARDD HEDDWCH.

Ym mis Tachwedd 2018, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau dros gyfnod o fis i nodi 80 mlynedd ers agor y Deml Heddwch. Bydd hyn yn cynnwys ailgysegru’r Ardd Heddwch i ddathlu 30 mlynedd ers ei hagor gyda gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol a grwpiau heddwch ar ddydd Sul 25 Tachwedd. Bydd rhaglen #Teml80 Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar gael o ddechrau mis Medi drwy www.wcia.org.uk a www.cymrudrosheddwch.org

Mae aelodau Cymdeithas y Cymod ynghyd ag Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru wedi mynegi diddordeb mewn ‘mabwysiadu’ yr Ardd Heddwch ar ôl i brosiect Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ddod i ben ar ddiwedd 2018. 

 Darlith Heddwch Flynyddol – Dydd Mercher 8fed , 16.30, Cymdeithasau 2 (Adeilad y Senedd)

Bydd Janes Harries MBE, Cydlynydd Dysgu Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros heddwch drwy gydol ei bywyd, yn cyflwyno Darlith Flynyddol y Crynwyr yng Nghymru yn Eisteddfod 2018: “Jane Harries fydd yn rhoi ein trydedd darlith, ar agweddau ar etifeddiaeth heddwch a chyflawni heddwch yng Nghymru, wrth i ddigwyddiadau coffáu'r Rhyfel Mawr ddod i ben.”

Cymru, Gwlad Heddychlon? Golwg feirniadol ar dreftadaeth heddwch Cymru ers y Rhyfel Mawr

(Digwyddiad yr Eisteddfod – neges Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru am y Digwyddiad)

LAWRLWYTHO TAFLEN DARLITH Y CRYNWYR

Darllenwch erthygl Jane Harries yn Freedom News“A Oes Heddwch?”

Jane Harries MBE yn cyflwyno Darlith Flynyddol y Crynwyr yn Eisteddfod 2018:

Adnoddau ar ôl y digwyddiad

I weld recordiad fideo o Ddarlith Heddwch y Crynwyr gan Jane Harries yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ewch i’r rhestr chwarae ar Youtube drwy:

https://www.youtube.com/playlist?list=PLuBByzmU3OtGB42Ykmaq9FGYwmpCfyimw

Gallwch wrando ar gyfieithiad i’r Saesneg yma (dylid nodi bod yr ansawdd yn wael gan ei fod wedi’i recordio drwy offer cyfieithu):

https://www.dropbox.com/s/sxgtbugthe2xn0p/Jane%20harries%20peace%20lecture%202018.wav?dl=0

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru’n gobeithio recriwtio gwirfoddolwr i ychwanegu is-deitlau Saesneg i’r recordiad fideo. Os oes diddordeb gennych yn y cyfle hwn, cysylltwch â walesforpeace@wcia.org.uk

Pabell Heddwch – drwy’r wythnos (4ydd – 11eg Awst)

Bydd y Babell Heddwch (stondin 415-6), ger yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, ar agor drwy gydol wythnos yr Eisteddfod, gyda chymorth gan wirfoddolwyr o Gymdeithas y Cymod ac CND Cymru, a bydd rhaglen o ddigwyddiadau drwy'r wythnos.

LAWRLWYTHO RHAGLEN Y BABELL HEDDWCH   

Ddydd Llun, daeth pobl ynghyd yn yr Eisteddfod i nodi Diwrnod Hiroshima – 73 mlynedd ers y gollyngwyd bom atomig cynta'r byd ar ddinas Hiroshima, Japan, gan ladd 297,684 o bobl y cofir amdanynt ar draws y byd. Siaradodd Jill Evans ASE yn y digwyddiad yng Nghaerdydd eleni, i gefnogi’r Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear, ac yn benodol i gefnogi galwad CND Cymru ar i wledydd Prydain ymuno â Chytuniad Gwahardd Niwclear y Cenhedloedd Unedig.

Y llynedd, ym mis Rhagfyr 2017, dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel i ICAN, yr Ymgyrch Ryngwladol i Wahardd Arfau Niwclear, am eu gwaith dros ddegawdau yn ymgyrchu am gytuniad y Cenhedloedd Unedig. Mae CND Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros ddiarfogi niwclear ers y chwedegau.

-- Ewch i Archif CND ar Gasgliad y Werin    

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o ysgolion a grwpiau ieuenctid Cymru wedi cymryd rhan mewn Prosiect Crychyddion Papur a ysbrydolwyd gan Sadako Sasaki, a ddioddefodd y bom niwclear yn ystod ei phlentyndod, fel ffordd o fynegi eu dymuniad am fyd heb arfau niwclear.

Drwy gydol yr wythnos, bydd CND Cymru yn hyrwyddo ac yn casglu llofnodion i’r ‘Ddeiseb Trên Heddwch’, a fydd yn teithio ar draws Cymru ac i Lundain ar Ddiwrnod Heddwch y Byd, ar 21 Medi 2018, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymuno â Chytuniad Gwahardd Niwclear y Cenhedloedd Unedig.

Bydd Cymdeithas y Cymod hefyd yn hyrwyddo ac yn casglu llofnodion ar gyfer y ddeiseb Heddwch Nain Mamgu, a ysbrydolwyd gan Ddeiseb Heddwch y Merched i America yn y dauddegau, yn galw am fwy o gydlyniad rhyngwladol tuag at heddwch drwy’r Cenhedloedd Unedig.

Pabell Cynghrair Ffoaduriaid Cymru – drwy’r wythnos (4 - 11 Awst)

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn bartneriaid yng Nghynghrair Ffoaduriaid Cymru, a bydd eu stondin (117-118) ym Mae Caerdydd yn cynorthwyo ymwelwyr i ddeall sut gallwn ni i gyd gefnogi ffoaduriaid sy’n ffoi o ryfeloedd, fel rhan o ymrwymiad Cymru i ddod yn ‘Wlad Noddfa’.

Darllen yr erthygl

"Cannoedd o dedis yn gofyn a oes croeso" – Cynghrair Ffoaduriaid Cymru yn yr Eisteddfod

Gweld amserlen digwyddiadau Cynghrair Ffoaduriaid Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gweld llinell amser hanesion heddwch cudd ‘Ffoaduriaid a Noddfa' Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA