Themâu: Ffoaduriaid a Lloches

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynigiodd cymunedau Cymru loches i dros 4,000 o bobl o Wlad Belg a oedd yn ffoi rhag y gwrthdaro ar Gaeau Fflandrys. Yn y tridegau, croesawyd plant o Wlad y Basg a oedd yn ffoi o ryfel cartref Sbaen, ac mae sawl ton o bobl yn dioddef o achos gwrthdaro wedi cael cynnig lloches, ond hefyd wedi cyfrannu at siapio cymdeithas yng Nghymru, a hynny hyd at argyfwng Syria heddiw. Beth allwn ni ei ddysgu o’n treftadaeth heddwch? A yw Cymru heddiw yn fan o heddwch – ac a allwn ni fod y cyntaf yn y byd i fod yn 'Genedl Noddfa'?

Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd   Ffoaduriaid o Wlad y Basg / Rhyfel Cartref Sbaen, 1936-9   Kindertransport Iddewig, 1930au    Ailgartrefu ar ôl yr Ail Ryfel Byd     Gwrthdaro Ôl-drefedigaethol a Rhyfeloedd Cartref      Pobl Cychod Fietnam     Argyfwng Ffoaduriaid Syria   Cenedl Noddfa

 

Darlun o Argyfwng Ffoaduriaid Syria yn Arddangosfa Gelf Plant, Oriel Pendeitsh, Caernarfon, hydref 2016.

Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-18

Louvain wedi’i ddinistrio, 1914; Ffoaduriaid o Wlad Belg yn cael eu croesawu i’r Rhyl, 1914; Cofeb Ffoaduriaid o Wlad Belg yn Aberdaugleddau, 2015.

"Cyrhaeddodd llu o ffoaduriaid o Wlad Belg Aberystwyth nos Sadwrn ar y trên cyflym o Euston, a chawsant groeso cynnes gan y bobl leol. Mae’r oedolion yn athrawon, yn gerddorion ac yn arlunwyr proffesiynol adnabyddus o statws uchel. Mae cynhaliaeth nifer fawr o’r ffoaduriaid wedi’i sicrhau gan gymwynaswr adnabyddus.” Dyfyniad o’r Cambrian News and Merioneth Standard, 9 Hydref 1914

‘Go brin y gwelwyd, yn hanes y Rhyl, ddidwylledd a brwdfrydedd ar raddfa mor fawr â'r hyn a welwyd brynhawn dydd Mawrth pan gyrhaeddodd y ffoaduriaid o Wlad Belg’. Dyfyniad o Rhyl Journal,10 Hydref 1914.

Mae’r dyfyniadau uchod o’r cyfryngau yn gwrthgyferbynnu’n gryf â’r straeon am ffoaduriaid rydyn ni’n eu gweld yn y wasg a'r tabloids heddiw, gan mlynedd yn ddiweddarach, mewn cyfnod o ffyniant o gymharu. Ac eto, yn 1914 croesawodd Cymru dros 4,500 o Ffoaduriaid o Wlad Belg a oedd yn ffoi o Gaeau Fflandrys, wrth i wrthdaro’r Rhyfel Byd Cyntaf ddinistrio’u cartrefi. Er i’r mwyafrif ohonynt ddychwelyd, rydyn ni’n darganfod heddiw y cyfraniad parhaol wnaethon nhw i ddiwylliant, celf a chymdeithas Cymru – gan gynnwys Cadair Ddu Hedd Wyn, un o’r symbolau cryfaf o genhedlaeth goll y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth i argyfwng ffoaduriaid o Ewrop ddatblygu ganrif yn ddiweddarach, beth allwn ni ei ddysgu o’r gorffennol, i sicrhau heddwch heddiw?

Ym mis Chwefror 2016, lansiodd prosiect Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mewn partneriaeth â Sefydliad Coffa David Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth, alwad i gasglu ‘hanesion cudd’ dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i fyw yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafwyd darlith gyhoeddus gan Christophe Declercq o Goleg Prifysgol Llundain a Sefydliad Amsab / Prifysgol Ghent, sy’n un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw ar y pwnc ac yn gyswllt Prydain ar gyfer Ffoaduriaid Gwlad Belg 1914-18.

Darlith Cymru dros Heddwch ar Ffoaduriaid o Wlad Belg gan Christophe Declercq, mis Chwefror 2016 gan Gymru dros Heddwch

Ffoaduriaid o Wlad Belg – Adnoddau Hanesion Cudd a straeon o Gymru

Hil-laddiad Armenia, Twrci 1915-23

Rhwng 1900 ac 1923, lladdodd amryw o gyfundrefnau Twrci dros 3.5 miliwn o bobl o Armenia, Groeg, Nestoria a Christnogion eraill yn systematig. Ar y pryd, roedd Prydain yn flaenllaw wrth alw am gyfiawnder am yr hil-laddiad hwn. Bathwyd y term ‘genocide’ gan Iddew, Raphael Lemkin, wrth feddwl am bobl Armenia yn bennaf. Fodd bynnag, mae defnyddio’r term i ddisgrifio’r digwyddiadau yn 1915, lle llofruddiwyd bron i 1.5 miliwn o Armeniaid ethnig – dros 75% o bobl Armenia – yn dal i fod yn drosedd yn Nhwrci.

Yng Nghymru, mae cymuned Arminaidd fach ond sy’n dal i ffynnu, ac yn 2015 cafwyd seremoni i nodi can mlynedd wrth Gofeb Hil-laddiad Armenia yng Ngardd Heddwch Cymru yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd (cysegrwyd y gofeb yn 2007).

Wales' Armenians: still campaigning for recognition of the genocide suffered by their people in 1915 (Wales Online)

Ffoaduriaid Gwlad y Basg a Rhyfel Cartref Sbaen (1936-39)

  

Ym mis Medi 1936, galwodd y Cadfridog Franco ar gynghreiriaid yn yr Almaen a’r Eidal i helpu i sefydlu unbennaeth, yn erbyn y llywodraeth Weriniaethol etholedig, gan fomio ei gydwladwyr – gweithred arswydus sydd wedi’i chyfleu yn narlun 'Guernica' Picasso, y mae copi ohono yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Er i nifer ymladd – a chael cefnogaeth gan Gymry yn y Brigadau Rhyngwladol – gorfodwyd degau ar filoedd o bobl i fynd yn alltud, o ogledd Gwlad y Basg yn arbennig. Yn un o’r achosion mwyaf o allfudo mewn hanes diweddar, rhoddwyd 4,000 o blant ar longau i Brydain ar ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen.

Anfonwyd rhai ar yr S.S Habana o Bilbao i Southampton, a threfnodd y Cyd-bwyllgor Cenedlaethol dros Gymorth i Sbaen fod 400 o blant yn cael eu derbyn gan bedair ardal yng Nghymru: Brechfa yn Sir Gaerfyrddin, y Sgeti yn Abertawe, Caerllion yn ymyl Casnewydd, a Hen Golwyn yn y gogledd.

   

Gorffennaf 2017, taflen Cyngerdd Dathlu 80 Mlynedd, Caerllion; Erthyglau South Wales Argus, Mai 1937

Kindertransport Iddewig yr Ail Ryfel Byd

Ymgais i achub plant yn ystod y naw mis cyn yr Ail Ryfel Byd oedd Kindertransport (term Almaeneg am "cludiant plant"). Derbyniodd y Deyrnas Unedig bron i 10,000 o blant Iddewig yn bennaf, a chafodd nifer ohonynt lety gan bwyllograu lleol y Refugee Children’s Movement yn ardaloedd gwledig y gogledd a’r canolbarth (Bae Colwyn, y Rhyl, Llandudno a Bangor, Aberystwyth, Llanfair ym Muallt, a Llandrindod) ynghyd â’r ardaloedd dinesig yn y de, megis Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

"Organised by banker Nicholas Winton, over 130 Czech-Jewish children were transported to the small Welsh town of Llanwrtyd Wells in 1943. Educated in English at the makeshift school in the Abernant Lake Hotel, the community became a home for many of these children, acting as both a source of happiness during war and as solace when news of murdered loved ones arrived. Many returned to the town as adults (several having become naturalised British citizens) to erect a seat in honour of Joe Jones (a local shopkeeper who drove the children to sports events because they had no parents of their own doing so), plant a maple tree, and place a plaque stating ‘Llanwrtyd Wells, the smallest town in the land remains the greatest in our hearts.’ In 1985, descendents presented mayor Bryn Jones with a gold link, the first in the mayoral chain. In 2015 the people of Llanwrtyd Wells organised a visit to their twin town Český Krumlov in the Czech Republic. Llanwrtyd Wells is noteworthy for illustrating the type of connections formed during the war that endure across the decades into present day." Dyfyniad o Flog am yr Ail Ryfel Byd ar wefan Blog Hanes Cymry-Iddewig.

Mae dros 6,000 o ddisgynyddion yn fyw yn 2016 diolch i waith tawel Nicholas Winton, a ddathlwyd mewn rhaglen o "That's Life" gan Esther Ranzen yn 1998 (clip isod); ac mae miloedd yn rhagor yn fyw o ganlyniad i ymdrechion unigolion a chymunedau yng Nghymru.     

Ailgartrefu yn Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd

Yn y degawd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd miliynau o bobl yn dal i fod yn alltud yn Ewrop, a chwaraeodd Cymdeithas newydd y Cenhedloedd Unedig yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ran arweiniol yng nghyfraniad Cymru at raglenni ffoaduriaid ac ailgartrefu y Cenhedloedd Unedig.

Yn ystod y pumdegau, bu Gwasanaeth Rhyngwladol UNA a Chorffluoedd Heddwch lleol – sef gwreiddiau Cyfnewid UNA heddiw – yn recriwtio ac yn gosod gwirfoddolwyr ifanc a medrus ar gynlluniau cyfnewid drwy Ewrop. Erbyn 1958 roedd dros 650 o wirfoddolwyr Gwasanaeth Rhyngwladol UNA yn gweithio drwy gydol eu gwyliau haf mewn gwersylloedd gwaith yn Ewrop. Dros ddeng mlynedd ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, roedd miloedd o ffoaduriaid yn dal i fyw mewn baracs pren dros-dro a fu unwaith yn gartrefi i filwyr yr Almaen. Dynodwyd 1959 yn Flwyddyn Ffoaduriaid y Byd, blwyddyn ryngwladol gyntaf erioed y Cenhedloedd Unedig, a chodwyd miliwn o bunnoedd – swm enfawr o arian a llawer mwy nag a godwyd erioed gan y cyhoedd cyn hynny ym Mhrydain. Rhwng cronfeydd eraill byd-eang a gwaith Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, cliriwyd holl wersylloedd ffoaduriaid yr Ail Ryfel Byd o fewn degawd.

Roedd Robert Davies yn wirfoddolwr a gafodd ei leoli yn Awstria rhwng 1960 ac 1964, ac sydd wedi ysgrifennu llyfr dan yr enw 'All Together - a personal experience of international voluntary workcamps'. Rydym yn gobeithio digideiddio’r holl lyfr ar wefan Casgliad y Werin yn ystod haf 2017. Robert sefydlodd y VCS yng Nghaerdydd, biwro gwirfoddoli cyntaf Prydain, ac ef hefyd sefydlodd Gardd Heddwch Cymru. Gallwch wrando ar ei hanes ar Radio Cardiff Chronicle yma.  

Ffoaduriaid Affrica ac Asia (Gwrthdaro Ôl-drefedigaethol a’r Rhyfel Oer)

Uganda, 1972

Ar 5 Awst 1972, cyhoeddodd arlywydd Uganda, yr unben Idi Amin, neges oeraidd a fyddai’n newid bywydau am byth. Roedd miloedd o bobl o Asia yn mynd i gael eu halltudio o Uganda, gyda 90 diwrnod i adael popeth ar eu holau. Daeth bron i 30,000 o bobl Asiaidd Uganda i Brydain, ac aethant i 12 gwersyll ailgartrefu ar draws y wlad. Cafodd 1,000 ohonynt eu derbyn i gymuned fach Tonfanau ar arfordir Eryri yng Ngwynedd.

Dathlu deugain mlynedd o ffoaduriaid Asiaidd Uganda yng Nghymru (ITV, 2012)

Ffoaduriaid o Somalia, 1988 - heddiw

Wales Somaliland LinkCardiff, Newport and Swansea have some of the UK's oldest multicultural communities, from the 1880s when opening of the Suez Canal opened coal trading by sea with the bunker ports of what was then called the British Somaliland Protectorate and the Gulf of Aden (now Yemen).

Today, the deep and established communities of 6th generation descendents have not only offered sanctuary to refugees fleeing the Somali Civil War - which has ravaged the failed state of Somalia since 1988 - but have also played a pro-active role in supporting peace, stable government, development and recognition of modern Somaliland since 1991. 

 Heritage of Somali Communities in Wales - Youtube

Pobl Cychod Fietnam, 1978

Image result for vietnamese boat people walesMae pobl cychod Fietnam yn cyfeirio at bron i 800,000 o ffoaduriaid wnaeth ffoi o Fietnam ar gychod a llongau ar ôl Rhyfel Fietnam ac America yn ystod 1978 ac 1979 yn benodol, ond fe barhaodd tan ddechrau’r nawdegau. Gadawodd cannoedd o bobl Fietnam mewn cychod tila, gan ddibynnu ar y tonnau a dyngarwch eraill wrth ffoi o’r gyfundrefn newydd yn dilyn 'cwymp Saigon'. Chwaraeodd cymunedau Cymru eu rhan.

Caerdydd: Ffoadur o Fietnam yn cofio gadael ar gwch (Newyddion y BBC, 2005)

Penygraig, y Rhondda: Plentyn amddifad o Fietnam a gafodd gartref yng Nghymru yn dychwelyd i’w wreiddiau (Wales Online, 2013). Roedd Le-Thanh yn un o 99 o fabanod a achubwyd fel rhan o Operation Babylift 1975, yn ystod dyddiau olaf Rhyfel Fietnam, a daeth dan ofal y Canon John Thomas a’i wraig Binkie yn eu cartref ym Mhenygraig, y Rhondda.

Abermaw: Welsh haven for Vietnamese 'boat people' (Archif y Guardian, Medi 1978):

Argyfwng Ffoaduriaid o Syria, 2015 - presennol

Syrian refugees thank people in AberystwythDinasyddion a phreswylwyr parhaol yng Ngweriniaeth Arabaidd Syria, sydd wedi ffoi o’u gwlad ers dechrau Rhyfel Cartref Syria yn 2011, ac sydd wedi ceisio lloches yn rhannau eraill o’r byd, yw ffoaduriaid o Syria. Argyfwng Ffoaduriaid o Syria – ffeithiau y dylech eu gwybod (World Vision)

Yng Nghymru, er bod mwyafrif sylw’r wasg yn tueddu i ganolbwyntio ar Raglen Ailgartrefu Syria, mae’r angen mwyaf am gymorth yn ymwneud â newydd-ddyfodiadau dirybudd yn ardaloedd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Ond mae nifer o gymunedau wedi agor eu drysau i gynnig lloches.

Rhaglen ddogfen fer am Ffreutur Gymunedol y Fenni, yn cynnwys noson gyda ffoaduriaid o Syria sy’n cyflwyno eu bwydydd a’u diwylliant i’r bobl leol. Cyfarwyddwyd gan Jane Hubbard

Cenedl Noddfa?

Gan adeiladu ar dreftadaeth heddwch Cymru o gynnig lloches i ffoaduriaid dros y can mlynedd diwethaf, sefydlodd Cymdeithas Sifil Cymru fudiadau ‘dinasoedd noddfa’ – lle mae pobl a chymunedau lleol yn cydweithio i wneud eu dinasoedd yn lleoedd sy’n croesawu ffoaduriaid newydd, lle gallant deimlo’n ddiogel rhag rhyfel ac erledigaeth. Abertawe oedd ail Ddinas Noddfa gwledydd Prydain yn 2010, a daeth Caerdydd yn ddinas noddfa yn 2014.  

Cymru – Ymgyrch Cenedl Noddfa

Mae grwpiau cymdeithas sifil wedi dod at ei gilydd i ymgyrchu dros gydnabod Cymru yn ‘genedl noddfa’ gynta'r byd. Gweler Briff Gweithredu Cenedl Noddfa.

Grwpiau Lloches a Chefnogi Ffoaduriaid Lleol

Adnoddau a Dolenni

A yw Cymru heddiw yn fan o heddwch i’r rheiny sy’n ffoi rhag gwrthdaro? A beth a ddaw o ryngwladoldeb Cymru a symudedd yn Ewrop mewn byd ar ôl Brexit, ac ar gyfer y cenedlaethau a ddaw?

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA