Y Deml Heddwch: 100 mlynedd o Ryngwladoldeb gan Gymru

O adeiladu Teml Heddwch Cymru, i sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd a'r Cenhedloedd Unedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae heddychwyr Cymru - wedi'u cefnogi gan fudiadau ymgyrchu llawr gwlad eang - wedi siapio rhan Cymru yn y byd. Pa wersi y gallem eu dysgu ar gyfer rhan Cymru mewn byd mwy byd-eang, mwy rhyng-gysylltiedig ar ôl Brexit? Sut y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn dewis siapio'r can mlynedd nesaf?

Gwaddol David Davies      Y Deml Heddwch      Cynghrair y Cenhedloedd Cymru        Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen      Teithiau o'r Deml       Gardd Heddwch Cymru               Mudiadau Ymgyrchu a Chydsefyll Rhyngwladol    Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru     Uno'r Cenhedloedd   Cysylltiadau Cymunedol a Gwirfoddoli Rhyngwladol     Y Ganolfan Heddiw

Gwaddol y Daviesiaid

Un o Aelodau Seneddol Cymru oedd David Davies (1880-1944) ac roedd hefyd yn ddyngarwr o bwys. Cafodd ei brofiadau fel milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ddylanwad mawr ar y ffaith iddo dreulio'i oes yn pledio achos heddwch. Yr Arglwydd David Davies Llandinam - Wicipedia

Ganed David Davies i deulu o ddyngarwyr mawr. Roedd ei daid, David Davies Llandinam, yn ddiwydiannwr cyfoethog ac yn ddyngarwr, ac yn ddiweddarach byddai ei chwiorydd Gwendoline a Margaret yn dod yn noddwyr o bwys i'r celfyddydau yng Nghymru. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, chwaraeodd y chwiorydd Davies ran flaenllaw yn y gwaith o drefnu lloches i dros 4,000 o ffoaduriaid o Wlad Belg oedd yn ffoi o'r ffrynt.

Fel milwr yn ystod y Rhyfel Mawr - ac Ysgrifennydd Preifat Parhaol i Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George - cafodd David Davies ei frawychu gan y gyflafan a'r gwastraff a welodd. Credai fod modd osgoi rhyfel, petai modd deall achosion y rhyfel yn iawn, ac ar ôl dod yn ôl o gyfandir Ewrop canolbwyntiodd ei ymdrechion ar bledio achos heddwch. Roedd ar flaen y gad yn yr ymdrech i sicrhau trefn ryngwladol sefydlog drwy Gynghrair y Cenhedloedd ac Undeb Cynghrair y Cenhedloedd, ac roedd am weld sefydlu Heddlu Rhyngwladol cryf fel bod modd cynnal heddwch a chytundeb rhyngwladol.

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Ym 1918, sefydlodd David Davies ddisgyblaeth academaidd newydd, gan greu adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gynta'r byd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhoddwyd y Gadair gyntaf yn y ddisgyblaeth ganddo i anrhyddedu Arlywydd America, Woodrow Wilson, y dyn a baratodd y ffordd ar gyfer cysyniad Cynghrair y Cenhedloedd, syniad a oedd wedi'i hyrwyddo gan David Davies yn fwy na neb. Roedd yn un o sylfaenwyr Undeb Cynghrair y Cenhedloedd ac ef oedd y mwyaf blaenllaw i ddadlau dros greu heddlu rhyngwladol i helpu i gadw trefn yn fyd-eang. Yn ddiweddarach sefydlodd Gymdeithas y Gymanwlad Newydd er mwyn hybu ei weledigaeth o gyfraith a threfn ryngwladol. Mae meddylfryd y Gymdeithas yn dal i fod yn fyw iawn heddiw yn Sefydliad Coffa David Davies, sydd, drwy ysgolheictod academaidd, yn dal i anrhydeddu gwaddol ei sylfaenydd.

Teml Heddwch ac Iechyd Cymru

Ffrwyth dychymyg David Davies, y Barwn Davies cyntaf, oedd y Deml Heddwch ac Iechyd (gweler yr erthygl Wicipedia), ac fe'i sefydlwyd at ddau bwrpas. Y cyntaf oedd rhoi cartref i Gymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru Brenin VII, sefydliad gwirfoddol oedd yn gweithio er mwyn atal, trin a chael gwared ar y diciâu, a sefydlwyd ganddo ym 1910. Ef hefyd oedd llywydd cyntaf Cyngor Cenedlaethol Cymru Undeb Cynghrair y Cenhedloedd, ac ym 1934 addawodd roi £58,000 tuag at godi adeilad i fod yn gartref i'r ddau sefydliad (gyda £12,000 yn dod o'r Gymdeithas Goffa). Roedd Davies Davies yn dymuno i'r Deml Heddwch ac Iechyd fod "yn gofeb i'r dynion gwrol hynny o bob cenedl a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i roi diwedd ar bob rhyfel" - ac felly fe'i cyflwynwyd er cof am y rhai a laddwyd yn y rhyfel hwnnw. Gosodwyd y garreg sylfaen gan yr Arglwydd Halifax, Arglwydd y Sêl Gyfrin, ym mis Ebrill 1937.

Agorwyd y Deml ar 23 Tachwedd 1939 gan Mrs Minnie James o'r Dowlais, yn cynrychioli mamau galarus Cymru, a hithau wedi colli tri mab yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn gwmni iddi roedd merched o bob rhan o'r gymanwlad a oedd wedi uno i ymgyrchu dros heddwch ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweler 'A New Mecca' - hanes Agor y Deml Heddwch; gwyliwch stori fer ddigidol am agor y Deml.Yn drist iawn, fe wnaeth pelydr-x seremonïol a gafodd yr Arglwydd Davies yn un o'r fflyd o faniau a ddarparwyd ganddo i gynnal radiograffeg helaeth yn erbyn TB ddangos ei fod yn dioddef o glefyd terfynol, a bu farw ar 16 Mehefin 1944 (gweler y deyrnged iddo gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd). Yn fuan wedyn daeth diwedd ar yr Ail Ryfel Byd a sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd; byddai hyn yn arwain at greu llawer o'r cyrff diogelwch a chydweithredu rhyngwladol yr oedd David Davies wedi treulio'i oes yn ymgyrchu drostynt. Byddai llawer yn cael eu siapio gan Gymry a oedd wedi'u hysbrydoli gan weledigaeth David Davies.

Cynghrair y Cenhedloedd a Materion Rhyngwladol

Roedd Cynghrair y Cenhedloedd yn sefydliad rhynglywodraethol a gafodd ei sefydlu ar 10 Ionawr 1920 o ganlyniad i Gynhadledd Heddwch Paris a ddaeth â'r Rhyfel Byd Cyntaf i ben. Roedd amcanion Cynghrair y Cenhedloedd yn cael cefnogaeth gan gymdeithasau dinesig byd-eang, ac wrth i genedl ddygymod â'r galar o golli cenhedlaeth gyfan o ddynion a merched ifanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn hynod weithgar (gweler cyfeirnodau Casgliadau Prifysgol Caerdydd), gyda 280 o ganghennau lleol yn 1922, a dyfodd i 652 o ganghennau erbyn 1926.  
"Welsh Efforts for World Peace" - clawr cefn Adroddiad Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a gyhoeddwyd yn 1927, sydd wedi'i ddigideiddio ar wefan Casgliad y Werin. Roedd yr adroddiad blynyddol yma yn cynnwys llawer o fanylion am y gweithgareddau adeiladu heddwch a thwf mudiadau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn ystod yr 1920au a'r 1930au. 
Bu cymunedau a phwyllgorau yng Nghymru yn trefnu 'Diwrnodau Cennin Pedr' i godi arian tuag at yr ymdrechion i adeiladu heddwch; Cafodd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyntaf ei darlledu i'r byd, yn ogystal â sefydlu'r mudiad heddwch i ieuenctid, sef Urdd Gobaith Cymru; roedd Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru wedi arwain ar hyrwyddo dysgu am heddwch byd; yn dilyn Apêl Merched Cymru i Ferched America cafwyd Pererindod Heddwch Merched y Gogledd ac Aoêl Heddwch gan Arweinwyr Ffydd Cymru.
Stori ddigidol o'r hyfforddiant Gwirfoddolwyr Treftadaeth Heddwch, Mai 2016 - Adroddiad Cynghrair y Cenhedloedd yn 1927 (o Lyfrgell y Deml Heddwch).
Yn 1926, cynhaliodd Cymru y Gyngres Heddwch Rhyngwladol yn Aberystwyth, a hynny ar fyr rybudd wedi i gynlluniau i gynnal y Gyngres yn Dresden ddymchwel. I ddathlu 90 mlynedd ers cynnal y digwyddiad anhygoel hwn - lle cafodd Cymru ei gosod ar lwyfan y byd yn ystod trafodaethau heddwch - agorwyd Arddangosfa Cynghrair y Cenhedloedd yn ystod haf 2016 yn Llyfrgell Hugh Owen ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Cymru dros Heddwch.Cynhaliwyd 'Cynadleddau Heddwch Gregynogyn flynyddol rhwng 1922 ac 1939, a drefnwyd gan yr adeiladwr heddwch blaenllaw, Gwilym Davies. Hyd yn oed erbyn 1935, gyda'r Ail Ryfel Byd ar y gorwel, cafwyd cefnogaeth 85% o'r cyhoedd i 'Bleidlais Heddwch' ar Ddiarfogi. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd cynigion Cymru i greu sefydliad addysg rhyngwladol ddylanwad cryf ar greu UNESCO, sef sefydliad addysg, gwyddoniaeth a diwylliant y Cenhedloedd Unedig. Chwaraeodd nifer o adeiladwyr heddwch o Gymru rolau allweddol wrth sefydlu cnewyllyn y Cenhedloedd Unedig sy'n bodoli mewn materion rhyngwladol hyd heddiw:
• Yr Arglwydd David Davies o Landinam – cafodd ei gynigion i greu lluoedd cadw heddwch eu gwireddu ar ôl ei farwolaeth pan sefydlwyd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Syr David Owen o Bont-y-pŵl – sylfaenydd Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig a Chyd-Weinyddwr cyntaf Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig.
Guildhaume Myrddin-Evans o Abertyleri – cynrychiolydd y Deyrnas Gyfunol wrth sefydlu'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol
Ben Bowen Thomas o Ystrad Rhondda – Cadeirydd UNESCO
• Arthur Davies o'r Barri – Ail Ysgrifennydd Cyffredinol Sefydliad Meteorolegol y Byd, 1956-79

Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru, 1922-39

Cafodd Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru (gweld ar Flickr) ei sefydlu gan y Chwiorydd Davies a Gwasg Gregynog yn 1922, i ddatblygu'r gwaith o ddysgu heddwch ac egwyddorion Cynghrair y Cenhedloedd yn ysgolion Cymru. Hon oedd y fenter athrawon gyntaf o'i bath yn y byd. Cynhyrchwyd Maniffesto 'Athrawon a Heddwch y Byd' cyn Etholiad Cyffredinol 1929, ac roedd yn rhagflaenydd i faes addysg heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang heddiw - ond ychydig iawn sy'n wybyddus am waith y Pwyllgor, er bod cynigion o Gymru i greu sefydliad addysg rhyngwladol wedi cael dylanwad mawr ar greu sefydliad addysg, gwyddoniaeth a diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO), yn ystod y pedwardegau a'r pumdegau yn ôl y sôn. Allech chi ein helpu ni i ymchwilio ymhellach i'r hanes cudd yma? Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio y bydd dadorchuddio a dod i ddeall sut y bu i genedlaethau blaenorol o athrawon ddatblygu rhaglen addysg heddwch mor effeithiol yn gallu ysbrydoli athrawon heddiw i fynd i'r afael â materion cyfoes yn yr ystafell ddosbarth drwy'r rhaglen Ysgolion Heddwch rydyn ni'n ei datblygu.

"Gall hanes, o'i ddysgu'n iawn, fod yn falm i iachau gwledydd... Mae'r rhan y gallai Cymru ei chwarae yn y gwaith o heddychu Ewrop drwy gadernid hyblyg a chydymdeimlad ei phlant... yn ddedfryd gwych i'w osod gerbron athrawon hanes yn ysgolion Cymru". W Hammond Robinson, anerchiad i Gymdeithas Ysgolion Sir Cymru, 1926.

Uno'r Cenhedloedd: Heddychwyr o Gymru yn siapio'r Cenhedloedd Unedig

Chwaraeodd nifer o heddychwyr o Gymru ran allweddol wrth sefydlu cnewyllyn y Cenhedloedd Unedig o 1946 ymlaen sy'n dal lle o bwys mewn materion rhyngwladol hyd heddiw. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy'n gallu ein helpu i ddarganfod rhagor o hanesion am gyfraniad ffigurau o Gymru tuag at fentrau'r Cenhedloedd Unedig ledled y byd, rhwng 1946 a heddiw - o 'arweinwyr blaenllaw' i weithwyr dyngarol a gweithwyr datblygu cyffredin ar lawr gwlad.  

• Yr Arglwydd David Davies Llandinam – cafodd ei gynigion i greu lluoedd cadw heddwch eu gwireddu ar ôl ei farwolaeth pan sefydlwyd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a Llu Cadw Heddwch y Cenhedloedd Unedig.
Syr David Owen o Bont-y-pŵl – sylfaenydd Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig a Chyd-Weinyddwr cyntaf Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig.
Guildhaume Myrddin-Evans o Abertyleri – cynrychiolydd y Deyrnas Gyfunol wrth sefydlu'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol
Ben Bowen Thomas o Ystrad Rhondda – Cadeirydd UNESCO
• Arthur Davies o'r Barri – Ail Ysgrifennydd Cyffredinol Sefydliad Meteorolegol y Byd, 1956-79.

Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen : 70 mlynydd o Dreftadaeth Heddwch, 1947 - 2017

Llangollen International Eisteddfod

Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1946, fe wnaeth y cyfansoddwr o Gymru, Gwynn Williams, a'r swyddog gyda'r Cyngor Prydeinig, Harold Tudor, fynd ati i drefnu gwyl gerddoriaeth a diwylliant ryngwladol gyntaf Cymru, gyda'r genhadaeth o 'wellhau effeithiau'r rhyfel' a hybu dathliad rhygwladol. Mae'n tyfu i fod yn ddigwyddiad byd-eang gwirioneddol, gan ddenu 5,000 o berfformwyr y flwyddyn o dros 50 o wledydd. Mwy...

Gwefan Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen

Teithiau o'r Deml: Archwilio Treftadaeth Heddwch Cymru

Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf, Gerddi Alexandra Y Crypt a Llyfr y Cofio Cymru 'Neuadd y Cenhedloedd' Siambr y Cyngor a Llyfrgell y Daviesiaid Gardd Heddwch Cymru

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi bod yn cynnig 'Teithiau o'r Deml' i grwpiau ac ymwelwyr sydd â diddordeb mewn archwilio'r adeilad unigryw yma ac mewn dysgu rhagor am hanes y sefydliadau a'r mudiadau sydd wedi bod yn gweithio yn y Deml Heddwch ers iddi agor yn 1938. Mae'r Daith - a gafodd ei datblygu gyda'r hanesydd teledu James Cowan o Hanesion Cudd Caerdydd - yn cael ei chyflwyno gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi, ac yn cychwyn o'r Gofeb Rhyfel cyn mynd ymlaen i'r Crypt a Llyfr y Cofio, 'Neuadd y Cenhedloedd', y Llyfrgell a Gardd Heddwch Cymru.

Cafodd y teithiau eu lansio ym mis Gorffennaf 2016 i nodi can mlynedd ers Brwydr y Somme, yn ogystal ag Arddangosfa Cofio er mwyn Heddwch (yn ystod haf 2016) a Chynhadledd 'Herio Hanes' mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Voices of War and Peace.  

Er mwyn archebu eich ymweliad neu i drefnu taith bwrpasol, anfonwch e-bost i cymrudrosheddwch@wcia.org.uk

Gardd Heddwch Cymru: Cofio am Adeiladwyr Heddwch Cymru

       

Cafodd yr Ardd Heddwch, a sefydlwyd gan Robert Davies, Ymddiriedolwr UNA (gwasanaeth gwirfoddoli rhyngwladol ers yr 1950au), ei chreu gan gyfres o wersylloedd gweithio i ieuenctid er mwyn dathlu gwerthoedd y Deml Heddwch ac Iechyd, ac i nodi hanner canrif ers agor yr adeilad. Plannodd gwirfoddolwyr rhyngwladol y coed cyntaf a gosod mosaig o amgylch y polyn baner canolog. Mae dyluniad yr ardd yn seiliedig ar lawryf glas y Cenhedloedd Unedig ac wedi'i chysegru i ddelfrydau'r Cenhedloedd Unedig. Mae'r Ardd yn lecyn tawel i fyfyrio yng nghanol y ddinas. Lluniau o'r ardd.

Tyfu Straeon Heddwch: Gwersylloedd Gwirfoddolwyr Heddwch Ieuenctid Rhyngwladol

Yn 2015 a 2016, bu Cymru dros Heddwch, drwy weithio gyda Chyfnewid UNA, yn cefnogi dau 'Wersyll Heddwch', ac yn dod â gwirfoddolwyr rhyngwladol a gwirfoddolwyr ifanc o'r de ynghyd i weithio ar yr ardd heddwch. 

  • Roedd y gwersyll heddwch yn haf 2015 yn canolbwyntio ar dacluso ac adnewyddu'r Ardd Heddwch, ar greu mosaig bach newydd ar gyfer y portico mynediad, a rhannu safbwyntiau ieuenctid ar faterion heddwch presennol. Darllen yr erthygl.
  • Roedd y gwersyll heddwch yn haf 2016 yn gweithio gyda merched Duon a Lleiafrifoedd Ethnig o gymuned Glan-yr-Afon i feithrin perthnasoedd a chasglu straeon drwy dyfu bwyd gyda'i gilydd, er mwyn creu cyfres o straeon digidol - sydd wedi'u cynnwys ar y blog 'Tyfu Straeon Heddwch'.

 

Dehongliad newydd ar gyfer Cofebion yr Ardd Heddwch

Mae'r Ardd Heddwch hefyd yn lle i gofio am gyfraniad pobl Cymru i heddwch a chyfiawnder cymdeithasol. Mae nifer o'r coed a'r llwyni wedi cael eu plannu i gofio am bobl, mudiadau neu ddigwyddiadau arbennig, sydd wedi'u nodi ar blaciau a chofebion.  Rhwng 2016 a 2018, mae Cymru dros Heddwch yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu ni i gasglu 'hanesion cudd' y cofebion heddwch yma (llwytho'r rhestr i lawr) er mwyn creu canllaw rhyngweithiol, gyda dehongliad i ymwelwyr. Mae enghreifftiau o'r cofebion yn cynnwys:

Gyda buddsoddiad ariannol drwy gynllun 'Bagiau Cymorth' Cronfa Gymunedol Tesco, a chyfranogiad gwirfoddolwyr rhyngwladol drwy brosiect Cyfnewid UNA, mae Cymru dros Heddwch yn cefnogi'r gwaith o adnewyddu'r ardd yn barod ar gyfer dathlu 30 mlynedd ers ei hagor yn 2018 - sy'n cynnwys meddwl am waith celf / syniadau am osodwaith gan bobl ifanc Cymru ar Nodau Datblygu Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig, sy'n diffinio heriau datblygu'r byd ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol. 

Mudiadau Ymgyrchu a Chydsefyll Rhyngwladol

 

      

Dros y can mlynedd diwethaf, mae unigolion a chymunedau yng Nghymru wedi chwarae rôl flaenllaw yn rhai o fudiadau pwysicaf ein hamseroedd, gydag ymgyrchoedd yn galw am hawliau dynol, heddwch, cyfiawnder a ffyniant. Tu cefn i bob un, mae cist drysor o hanesion cudd am adeiladwyr heddwch sy'n aros i gael eu darganfod; o'r 'dolenni blasu' isod, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gan wirfoddolwyr neu gyfrannwyr sy'n gallu ein helpu i adrodd y rhan bwysig hon o stori adeiladu heddwch Cymru. E-bostiwch cymrudrosheddwch@wcia.org.uk.  

CND Cymru campaigning against Nuclear Arms, 1957-2017 Schools Int'l Peace Day @ St Fagans

Cysylltiadau â Gwledydd, Addysg a Gwirfoddoli Rhyngwladol

Mae gan Gymru stori anhygoel i'w dweud am gysylltiadau uniongyrchol rhwng pobl a chymunedau ledled y byd - llysgenhadon cyffredin, gwirfoddolwyr ifanc a hŷn, rhaglenni cyfnewid sgiliau ac addysg, prosiectau datblygu cymunedol a hwyluso cydweithio rhwng Cymru a gweddill y byd. Tu cefn i bob un, mae cist drysor o hanesion cudd am adeiladwyr heddwch sy'n aros i gael eu darganfod - byddai Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn falch iawn o glywed gan wirfoddolwyr neu gyfrannwyr sy'n gallu ein helpu i adrodd y rhan bwysig hon o stori adeiladu heddwch Cymru. E-bostiwch cymrudrosheddwch@wcia.org.uk.

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru: Cymru yn y Byd Heddiw

Roedd llawer o gefnogaeth i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru rhwng 1918 ac 1945, er nad oedd mewn sefyllfa gryf yn ariannol; ac roedd ei olynydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA) Cymru, mewn sefyllfa ddigon tebyg. Roedd cefnogwyr gwaith y Deml Heddwch yn bryderus ac o'r farn bod yn rhaid gwneud rhywbeth - roedd UNA Cymru yn brin o aelodau ac arian. Roedd yn cael anhawster darparu'r arweiniad roedd ei hangen ar Gymru i ymateb i ymgyrchoedd mawr, er enghraifft Blwyddyn Ryngwladol dros Gydweithio yn 1965 a Blwyddyn Ryngwladol Hawliau Dynol yn 1968. Cafwyd syniad i ffurfio 'Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru’.

Yn 1968, nodwyd mewn darn golygyddol ym mhapur y Western Mail bod y syniad yn un "cyffrous a diddorol" ac y byddai'n "annog pobl o Gymru i edrych tu hwnt i Gymru a Phrydain er mwyn ehangu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o weddill y byd". Yn 1970 cafodd cynnig ffurfiol i greu Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ei fabwysiadu gan Bwyllgor a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, George Thomas AS (a ddaeth yn Is-iarll Tonypandy yn ddiweddarach), i nodi 25 mlynedd ers sefydlu'r Cenhedloedd Unedig. Daeth y sefydliadau a oedd yn rhan o'r pwyllgor i nodi 25 mlynedd ers sefydlu'r Cenhedloedd Unedig - Y Swyddfa Gymreig, awdurdodau lleol, Prifysgol Cymru a cholegau addysg, ASau, undebwyr llafur, diwydiannwyr, yr eglwysi, pleidiau gwleidyddol, y cyfryngau a sefydliadau gwirfoddol - yn Gynhadledd Sefydlog i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gan ehangu ystod y sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â'r Deml Heddwch.

Agorwyd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn swyddogol ar 11 Hydref 1973 gan y Farwnes Tweedsmuir, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Meddai Hywel Francis, AS Aberafan, unwaith yn Nhŷ'r Cyffredin: "Ers degawdau, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru... wedi chwarae rôl hanfodol. Mae angen i ni wrando ar lais tawel, addysgiadol am oddefgarwch a rhesymeg y Ganolfan a'i werthfawrogi yng Nghymru a thu hwnt. Mae'n haeddu ein holl gefnogaeth a dylem ymfalchïo yn ei waith.”
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru        Hanes y Deml a'r Ganolfan      Gwefan y Deml      Gwaith a Phrosiectau cyfredol y Ganolfan
   

 

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

Digwyddiadau diweddaraf

  • 11/11/2017 19:30
    This Evil Thing / Galeri
    Ionawr 1916: Mae Bert Brocklesby yn athro ac yn bregethwr yn ei gapel ...

    Darllenwch ragor...
WCIA