Merched, Rhyfel a Heddwch

Merched yng Nghymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf     Apêl Merched Cymru i Ferched America    Gorymdaith Heddwch Merched y Gogledd a Gorymdaith Heddwch Merched y De     Merched y Byd a Theml Heddwch Cymru      Merched yn ymgyrchu rhwng Rhyfeloedd      O Gomin Greenham i Wynedd     Arddangosfa Merched, Rhyfel a Heddwch      Cyfrannu Hanesion Heddwch Cudd

Merched yng Nghymru ac yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf fynd rhagddo, byddai swyddogaeth merched yng Nghymru ac yng ngwledydd Prydain yn ehangach yn newid am byth - gyda phenllanw ym 1918 wrth i rai merched gael y bleidlais o'r diwedd, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu dros etholfraint i ferched (yr hawl i bleidleisio). Roedd cyfraniad merched at ymdrech y rhyfel, yn ogystal â'u cyfraniad at yr ymgyrch yn erbyn y rhyfel, yn enfawr ac yn ddigynsail. Roedd y frwydr dros y bleidlais, a'r profiad o gael mwy o ryddid wrth wneud swyddi a adawyd yn wag gan ddynion oedd wedi mynd i'r Ffrynt, yn golygu bod merched wedi datblygu hyder yn eu gallu i ddylanwadu ar fyd gwleidyddiaeth, byd oedd yn llawn dynion yn draddodiadol. Llwyddodd llawer i ganfod eu llais drwy'r ymgyrchoedd niferus dros heddwch a gododd fel ymateb i erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r bywydau a gollwyd.   

Apêl Merched Cymru i Ferched America

Women's Petition Title.jpg

Ym 1923-4 penderfynodd 390,296 o ferched o bob rhan o'r wlad lofnodi deiseb brydferth i ferched America, gan ofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad i berswadio'r wlad i ddod yn aelod llawn o Gynghrair y Cenhedloedd, er mwyn diogelu heddwch ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae rhwymiad y ddeiseb ysbrydoledig hon wedi'i chadw yn llyfrgell y Deml Heddwch ers agor y Deml ym 1938 - ond credir bod y ddeiseb ei hunan wedi cael ei hanfon i Philadelphia.

Mae Cymru dros Heddwch yn chwilio am wirfoddolwyr a haneswyr a allai o bosib ein helpu i ddadorchuddio stori'r ddeiseb - ac i unrhyw gysylltiadau ymchwil yn America, y gamp eithaf fyddai ailddarganfod llawysgrif wreiddiol y ddeiseb, yn y gobaith o allu dod â'r ddwy ran ynghyd unwaith eto. 

Gorymdaith Heddwch Merched y Gogledd 1926

Ar 26 Mai 1926, cyrhaeddodd dwy fil o ferched o bentrefi o gwmpas tref Pen-y-groes yn Sir Gaernarfon yn y dref farchnad yn cario baner las heddwch. Dyma oedd dechrau'r Pererindod Heddwch; teithiodd y grŵp 150 milltir mewn ceir a siarabángs, gan gynnal pymtheg cyfarfod gan gynnwys un yn adfeilion Castell Conwy, ym Mae Colwyn a'r Rhyl, cyn ymuno â merched o ogledd-orllewin Lloegr yng Nghaer er mwyn mynd ymlaen i Hyde Park yn Llundain lle roedd dros 10,000 wedi ymgynnull.

‘Rydyn ni, aelodau a chefnogwyr Pererindod yr Heddychwyr, yn ein cred y dylai'r gyfraith ddisodli rhyfel yn y gwaith o setlo anghydfodau rhyngwladol, yn erfyn ar lywodraeth Ei Fawrhydi i gytuno i anfon pob anghydfod i'w penderfynu drwy gymodi a chymrodeddu, a thrwy arwain y blaen yng Nghynhadledd Ddiarfogi arfaethedig Cynghrair y Cenhedloedd, ddangos i'r byd nad yw Prydain Fawr yn bwriadu galw ar rym.'

Arweiniodd y Pererindod Heddwch at sefydlu Cyngor Heddwch Merched y Gogledd, a Cynghrair Rhyngwladol Heddwch a Rhyddid y Merched.

Dathlu 90 mlynedd ers Pererindod Heddwch y Merched

Ym mis Medi 2016, ar gyfer diwrnod rhyngwladol heddwch, bu Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac ymgyrchwragedd heddwch o siroedd y gogledd yn cofio achlysur y naw deg mlwyddiant drwy wahodd cymunedau Gwynedd i gymryd rhan mewn ailgread o bererindod heddwch y merched, gorymdaith heddwch i ferched heddiw. Cafodd llechfaen goffa, wedi'i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chymru dros Heddwch, ei dadorchuddio yn y 'South of France', yr hen Gei Llechi ar lan y dŵr y tu allan i waliau Castell Caernarfon; a chafodd arddangosfa yn dathlu treftadaeth heddwch Gwynedd ei dangos yn Oriel Pendeitsh drwy gydol hydref 2016, fel rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau cymunedol oedd yn cyd-fynd â cherflunwaith Poppies: Weeping Window.

Gweler darn gwreiddiol o ffilm gan Pathé o bererindod heddwch y merched yng Nghastell Caernarfon.

Gweler clip byr o Orymdaith Heddwch y Merched yn 2016.

Gweler albwm Flickr o arddangosfa Oriel Pendeitsh.

Dysgwch ragor am Lwybr Heddwch Caernarfon.

Galw ar wirfoddolwyr a Grwpiau Cymunedol: roedd hefyd Gorymdaith Heddwch o Abertawe gan ferched y de yn 1926 - hanes heddwch cudd nad ydyn ni'n gwybod llawer amdano! Mae sôn amdano yng nghofnodion WILPF ac mewn ysgrifau gan y suffragist a'r ymgyrchydd heddwch Maude Courteney. Allwch chi ein helpu ni i ddod o hyd i'r hanes?

Merched y Byd yn agor Teml Heddwch Cymru

Roedd mudiadau merched Cymru yn hollbwysig yn y gwaith o greu Llyfr y Cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf, gan ymgyrchu a chodi arian er mwyn codi Teml Heddwch Cymru i fod yn gartref i'r llyfr.

Ym 1938, agorwyd y Deml gan Minnie James o'r Dowlais, gyda merched i gynrychioli gwahanol rannau o'r byd, a chyflwynodd y Deml "yn gofeb i'r dynion gwrol hynny o bob cenedl a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i roi diwedd ar bob rhyfel... Fe ddaw'r adeilad hwn i fod yn symbol i bobl Cymru o'n penderfyniad i ymdrechu i sicrhau cyfiawnder a heddwch yn y dyfodol."

Ymgyrchoedd Heddwch gan Ferched rhwng y Rhyfeloedd - Adnoddau Defnyddiol

 

O Greenham i Wynedd: Arwresau Heddwch Heddiw

Mae merched yn dal i fod yn rheng flaen mudiadau heddwch Cymru, drwy grwpiau lleol a chyfiawnder lleol, gwaith ymgyrchu a chymdeithasau fel Cymdeithas y Cymod, CND Cymru, Crynwyr Cymru a Gwerin y Coed.

Rhwng 1981 a 2000, bu merched Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yng Ngwersyll Heddwch Comin Greenham yn Swydd Berkshire, lle roeddynt yn protestio yn erbyn arfau niwclear. Mae Cymru dros Heddwch wedi bod yn gweithio gyda grwpiau ysgolion er mwyn hwyluso prosiectau 'dysgu rhwng cenedlaethau' rhwng rhai o gyn-ymgyrchwyr Greenham a phobl ifanc heddiw, a hynny mewn ysgolion yng Ngwynedd, y Rhondda a Chaerdydd.

Ym mis Medi 2015, llwyddodd pedair o ferched Gwynedd (dde) i gyrraedd y penawdau newyddion am brotestio yn erbyn profi dronau neu 'adar angau' (sef awyrennau dibeilot ar gyfer rhagchwilio a bomio) yng Nghymru.

Mae merched Cymru yn weithgar o ran gwneud safiad dros hawliau dynol a heddwch heddiw, gan gynnwys ein Cydlynydd Dysgu ni yn Cymru dros Heddwch, sef Jane Harries, sy'n teithio'n rheolaidd i Israel a Phalesteina fel sylwedydd hawliau dynol. 

Arddangosfa ar y Ffordd - Merched, Rhyfel a Heddwch

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn falch o gael cydweithio â'r ffotonewyddiadurwr rhyngwladol Lee Karen Stow. Bydd arddangosfa Gymreig "Merched, Rhyfel a Heddwch" yn cael ei dangos yn y Pierhead yng Nghaerdydd yn ystod haf. Mae hyn yn adeiladu ar waith Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru gyda chymunedau Cymru hyd yma, yn datguddio hanesion merched o fudiadau heddwch y dauddegau, ac yn lansio cofeb i Bererindod Heddwch Merched y Gogledd. Drwy arddangosfa ffotograffig Lee, a chyfweliadau gyda merched Cymru heddiw, gobeithiwn ddod â bywyd i rai o'r straeon unigol hyn. Mwy...

Cyfrannu Hanesion Heddwch ar Ferched, Rhyfel a Heddwch

Yn ystod 2016-17 mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio creu archif gynhwysfawr o Dreftadaeth Heddwch Cymru fydd ar gael yn agored. Mae merched yn rhan ganolog o'r hanes hwnnw. Os gwyddoch am unigolion, grwpiau neu straeon o'ch cymuned a allai gyfrannu at y gwaith hwn, fe fyddem yn falch iawn o gael clywed gennych!

Ewch i'n tudalen Hanesion Heddwch Cudd sy'n cynnwys adnoddau y gallwch eu llwytho i lawr, neu anfonwch e-bost atom drwy cymrudrosheddwch@wcia.org.uk.

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA