Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru

Ym 1922, darlledwyd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyntaf gan blant Cymru i'r byd. Ers bron i ganrif, mae miloedd o bobl ifanc wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio, rhannu ac ymateb i'r neges heddwch. Yn wreiddiol roedd y neges yn cael ei hwyluso gan Undeb Cymru Cynghrair y Cenhedloedd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, ond ers 1946 mae'r neges wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith dyngarol a rhyngwladol Urdd Gobaith Cymru - sydd â 1,500 o ganghennau a 50,000 o aelodau ym mhob rhan o'r wlad. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gweithio gyda'r Urdd er mwyn casglu'r cyfoeth yma o negeseuon ieuenctid, ymatebion o dramor a gwaith cyfnewid rhyngwladol sydd wedi bod yn ystod y ganrif.

Beth yw'r 'Neges'?    Hanes    Archif Negeseuon    Archif Ymatebion    Y Neges Heddiw   Cyfrannu

Beth yw'r 'Neges'?

Danfonir y neges ar ran ieuenctid Cymru oll i bobl ifanc ledled y byd. Y ddau sefydliad fu'n bennaf gyfrifol am y drefniadaeth a’r ymroddiad i barhau gyda’r neges, ar ran y genedl, oedd Cynghrair y Cenhedloedd (tan y 1950au) a'r Urdd. Drwy gydol ei hanes, mae llwyddiant y neges wedi bod yn ddibynnol ar frwdfrydedd athrawon eangfrydig a mudiadau ledled Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Cyfieithir y neges gan wirfoddolwyr, i nifer lu o ieithoedd, a chroesewir unrhyw gynigion pellach i drosi’r neges i ragor o ieithoedd y byd. Dewiswyd y 18fed o Fai fel diwrnod cyhoeddi’r neges i gyd-fynd â dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899.

Thema neges 2017 gan ieuenctid Cymru i'r byd yw Cydraddoldeb i Bobl Ifanc. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd 2017 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái rhwng 29 Mai a 3 Mehefin 2017
.

Hanes y Neges

Yn ysbrydoliaeth i’r cyfan, ac yn hwyluso cynulleidfa ryngwladol i’r neges, oedd Gwilym Davies o Gwm Rhymni. Roedd yn heddychwr mawr a bu'n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Undeb Cymru Cynghrair y Cenhedloedd ac UNESCO. Credai mewn dod â phlant y byd ynghyd. Do, fe brofwyd siomedigaeth, gan na fu dim ymateb i’r neges gyntaf yn 1922. Roedd hyn cyn defnyddio’r radio, pan oedd y neges yn cael ei hanfon drwy delegraffi at blant y byd yn gyffredinol. Cysur efallai oedd i Gyfarwyddwr Gorsaf Tŵr Eiffel ym Mharis ei derbyn a’i danfon yn ei blaen yn Ffrangeg.

Ac eto, roedd Gwilym Davies yn ddyn o weledigaeth a dyfalbarhad, ac yn 1924, wedi i’r BBC ddarlledu’r neges am y tro cyntaf, derbyniwyd dau ateb, un o Sweden a’r llall o Wlad Pwyl. Penderfynodd Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, gefnogi'r ymgyrch er mwyn dileu anwybodaeth a rhagfarnau. Gwelwyd twf yn nifer yr ymatebion, ac yn 1927 nododd enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Dr Nansen:

“Rwy’n argyhoeddedig mai angen dynol ryw yw’r ysbryd sydd yn Neges Plant Cymru.” Dr. Nansen, Enillydd Gwobr Heddwch Nobel

Felly er gwaetha'r dechrau distaw, cafwyd ymatebion gan 68 o wledydd o fewn degawd. Yna daeth cysgod yr Ail Ryfel Byd, ond parhau i ddarlledu eu neges yn ddi-ffael wnaeth ieuenctid Cymru, er mai prin oedd yr ymatebion. Adferwyd yr hen gysylltiadau ar ôl y rhyfel a bu blodeuo ar gysylltiadau newydd. I ategu’r neges, cynhaliwyd gwersylloedd heddwch yng Nghymru a threfnwyd teithiau dramor i hybu cyfnewid diwylliannol a dealltwriaeth ryngwladol.

Mae cynnwys a ffurf y neges wedi esblygu dros y blynyddoedd, ond yr un yw bwriad y neges. Ar y cychwyn gwelir ailadrodd yr un geiriad dros gyfnod o sawl blwyddyn, megis rhwng 1922 a 1928, a’r prif ffocws oedd casglu’r ymatebion. Yn fwy diweddar gwelir creadigrwydd a gwreiddioldeb yng nghyflwyniadau’r neges gan yr Urdd, boed ar ffurf cân, cerdd neu berfformiad. Bellach, cyfansoddir neges newydd bob blwyddyn, gan amlaf mewn ymateb i ddigwyddiadau cyfredol neu ymgyrch elusennol. Mae Cymru dros Heddwch wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r Urdd, y Llyfrgell Genedlaethol a Chasgliad y Werin er mwyn rhannu’r cyfoeth hwn o dreftadaeth ar wefan Casgliad y Werin.

Lansiwyd arddangosfa am y neges heddwch gan Gymru dros Heddwch gyda'r Llyfrgell Genedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016
.

Breuddwydion Pobl Ifanc drwy'r Blynyddoedd

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, gan weithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, wedi datguddio a digido'r rhan fwyaf o'r negeseuon Heddwch ac Ewyllys Da rhwng 1922 a heddiw, ac mae modd eu gweld ar wefan Casgliad y Werin. Mae astudio'r negeseuon heddwch yn rhoi cipolwg i ni ar flaenoriaethau, pryderon a breuddwydion pobl ifanc yng Nghymru drwy gydol y ganrif.
  • 1922: Dymuniad, yn dilyn colledion enbyd y Rhyfel Mawr, na “fydd raid i neb ohonom, pan awn yn hŷn, ddangos ein cariad tuag at wlad ein genedigaeth trwy gasáu a lladd y naill y llall.
  • 1938: “Y mae ar y byd fwy o angen, heddiw nag erioed, am yr hyn na all neb ei roddi ond nyni, sef hyder a chyfeillgarwch yr ifanc.”
  • 1947: “Gwyddom ein bod yn byw mewn byd yn llawn o ofn a pherygl. Clywsom am y bomiau atomig dychrynllyd a all ddileu ein gwareiddiad, ond credwn fod yn y byd bethau sydd yn fwy nerthol nag arfau dinistr llwyr, pethau’r meddwl a’r ysbryd, ffydd, gobaith a chariad.”
  • 1951: “Dros y moroedd a thros y cyfandiroedd, y mae yr ifanc yn galw ar yr ifanc i fyw dros heddwch. Hoffem gyda chwi gyflwyno ein hunain i wasanaeth dynolryw. Felly y cawn ni, filiynau ohonom, dyfu i fod yn gyfeillion i bawb heb fod yn elynion i neb.”
  • 1985: “Os gall ieuenctid fel ni siarad â’n gilydd, byddwn yn cyfrannu at well dealltwriaeth rhwng cenhedloedd bach a mawr, gan leihau drwgdybiaeth ac anwybodaeth a rhagfarn ein byd.”
  • 2002: “Drwy rannu profiadau a diwylliant newydd gallwn ddatblygu parch a chariad at eraill. Wrth ddysgu am ein gilydd byddwn yn pontio ein cyfeillgarwch, yn gobeithio cau bwlch anwybodaeth ac agor drysau cyfiawnder a heddwch.” (Rhan o ymgyrch ‘Croeso Calcutta’.)

Ymatebion o dramor

  • 1938 Ffrainc: “Aux enfants du pays de Galles. Nous avons écouté votre émission avec joie, car nous avons trouvé ên vous des partisans de la paix.”
  • 1939 Algeria: “Nous sommes de tout Coeur avec vous, dans votre desir d’union entre les jeunesses du monde.”
  • 1946 Yr Almaen: “Bu blynyddoedd ers i ni glywed gan Blant Cymru. Mor dywyll y bu! Fe hoffen ni gael clywed gennych unwaith eto."
  • 1948 Japan: "Rydym mor falch o glywed, ar ôl unigrwydd blynyddoedd lawer, eich bod wedi anfon geiriau mor galonnog o gyfeillgarwch a chariad."
  • 1951 Y Swistir, Pentref y Plant Pestalozzi: “Boed i ddewrder a ffydd plant Cymru fod megis burum i gyffroi meddyliau a chalonnau yn eu cenedl hwy ac yn y genedl hon.”
  • 1952: Canada: ”Petawn i'n Weinidog Addysg fe wnawn i'n siŵr bod tripiau i wledydd eraill yn rhan hanfodol o addysg pob plentyn."
  • 1956 Y Swistir: “Nid oes gennym yr hawl i wneud beth a fynnon…. Rydym yn aelodau o un teulu mawr ac yn rhannu cyfrifoldeb am ein gilydd.”
  • 1958 Ariannin: “Mae’r gobeithion ar ieuenctid y byd, ac rydym ninnau ar y cyd gyda chi, am wireddu’r gobeithion hyn.”
  • 1958 India: “Yn y cyfnod hwn, pan fo natur yn llawn prydferthwch newydd, boed i ni gyfarch ein gilydd yng nghwlwm cyfeillgarwch."
  • 1960 Rwsia: “Gall bywyd fod yn dda ble nad oes rhyfel…. Felly ystyriwn fod plant Cymru yn gwneud gwaith clodwiw gyda’u Neges o Heddwch ac Ewyllys Da.”
  • 1965 Bwlgaria: “Boed i ni ddal dwylo, a boed i ni wrthod gadael i unrhyw rym hau casineb rhyngom."
  • 1969 Zambia: “Hoffai bechgyn a merched Zambia longyfarch ieuenctid Cymru ar y fenter .... Mae ieuenctid Zambia yn galw ar holl fechgyn a merched y byd i ymladd yn erbyn rhyfel, apartheid a phob ffurf ar wahaniaethu hiliol."
  • 1972 Gweriniaeth Siec: “Rhaid i ni uno i wrthwynebu grym y cenhedloedd mawr sy’n dymuno gwaredu’r byd o’r holl ieithoedd, diwylliannau a chenhedloedd ‘gwirion a disynnwyr o fach’.”

Y Neges Heddiw 

Thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da ieuenctid Cymru i'r byd eleni yw Cydraddoldeb i Bobl Ifanc. Caiff ei darlledu o Eisteddfod yr Urdd 2017 Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái rhwng 29 Mai a 3 Mehefin 2017.

Ysgrifennwyd thema neges 2016 gan ddisgyblion Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yn gweithio gyda Chymru dros Heddwch ar thema Cydwybod a Dewis: Sylfeini Heddwch - gan gofnodi can mlynedd ers cyflwyno gorfodaeth filwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chofio'r gwrthwynebwyr cydwybodol a fu'n gwrthwynebu rhyfel.


Roedd neges deimladwy 2014 yn cofnodi can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe'i hysgrifennwyd gan bobl ifanc Meirionnydd yn gweithio gyda Chymdeithas y Cymod a'r ymgyrchydd heddwch y Prifardd Mererid Hopwood. Fe'i perfformiwyd o'r Ysgwrn, cartref Bardd y Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn.

Arddangosfa a Chyfrannu Hanesion Heddwch Cudd

Y gwir yw na wyddom y stori yn ei chyfanrwydd eto, felly mae’r Urdd, gyda chefnogaeth prosiect Cymru dros Heddwch, yn galw am ymdrech cenedlaethol i ddadorchuddio’r hanesion cudd er mwyn cloriannu ymroddiad pobl ifanc Cymru i heddwch a dealltwriaeth ryngwladol. Gweler paneli'r arddangosfa yma.

Cysylltwch â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (cymrudrosheddwch@wcia.org.uk) neu'r Urdd (heddwch@urdd.org) i rannu eich stori neu i glywed mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli.

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA