Ymchwil ac Astudio
Prifysgolion, adrannau academaidd ac unigolion yng Nghymru sy'n edrych ar ymchwil, astudiaethau a materion yn ymwneud â heddwch.

PRIFYSGOL CAERDYDD
Canolfannau Ymgysylltu y Rhyfel Byd Cyntaf
Bydd pump o Ganolfannau Ymgysylltu yr AHRC yn cefnogi ystod eang o weithgareddau ymgysylltu cymunedol ar draws gwledydd Prydain ac yn cysylltu hanesion academaidd a chyhoeddus am y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o ddigwyddiadau i gofio can mlynedd ers y Rhyfel Mawr. Bydd pwyslais mawr ar gynnig cymorth i grwpiau cymunedol sy'n cael eu hariannu drwy raglenni ariannu Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ac yn benodol y cynllun grantiau cymunedol newydd gwerth £6 miliwn, ‘Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw’. Mae dwy ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru:

VOICES OF WAR AND PEACE
O dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Birmingham. Yn cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Mwy
LIVING LEGACIES
O dan arweiniad Prifysgol Cymru a Phrifysgol Queen's, Belffast. Yn cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
CYFEIRNODAU YMCHWIL HEDDWCH

CYMRU YN Y MYNEGAI HEDDWCH BYD-EANG - Darlun o'r Ddynoliaeth
Dull mwyaf blaenllaw'r byd o fesur heddwch rhyngwladol. Mae'r mynegai heddwch byd-eang yn mesur heddwch yn seiliedig ar 23 o ddangosyddion ansoddol a meintiol. Gweld lle mae Cymru arni.
Mwy
ACADEMÏAU HEDDWCH O GWMPAS Y BYD
Mae academïau heddwch yn chwarae rôl weithgar wrth arwain ar waith ymchwil a gweithredu dros heddwch heddiw.